Clywyd lleisiau Neville Hughes, Cadeirydd Balchder Bro Ogwen, ac aelodau eraill o grŵp Balchder Bro Ogwen yn sgwrsio hefo Hywel
Gwynfryn ar Radio Cymru yn ddiweddar, wrth iddyn nhw fynd ati i glirio
sbwriel o'r cae chwarae yn Abercaseg a lIefydd eraill. Roedden nhw'n defnyddio eu ffyn newydd i godi sbwriel, a brynwyd gyda grant Trefi Taclus gan Gyngor Gwynedd mewn cysylltiad a Chadw Cymru'n Daclus a Llywodraeth y Cynulliad. Cawson nhw gymorth hefyd gan Iona Thomas, Swyddog Trefi Taclus, ac aelodau Gang Cymunedol y Cyngor.
"Trwy gydweithio a Gang Cymunedol Cyngor Gwynedd roedden ni'n gallu clirio mwy o eitemau a lIenwi dau sgip a sbwriel," eglurodd Paul Rowlinson, ysgrifennydd Balchder Bro.
"Roedd hyn yn cynnwys gwahanol rannau o geir, olwynion, bymper a phibell wacau, yn ogystal a'r tuniau a'r cynwysyddion plastig sydd mor aml yn cael eu lluchio'n ddiofal.
"Mae'r Gang Cymunedol yn ymweld a gwahanol rannau o'r sir yn eu tro a gallan nhw wneud amrywiaeth o dasgau, beth bynnag sydd ei angen yn lleol, a
dweud y gwir."
|