'Dyma job ydi hon' - geiriau Now ei hun wrth iddo gyflwyno hanes ei fywyd yn Hogia Llandegai, Y Llyfr - a job ydi hon heddiw wrth inni ddod yma i ddiolch a dathlu bywyd Owen Glyn Jones. Rydan ni am gofio a ffarwelio a ffrind a chyfaill annwyl, ac i gofio am hogyn o'r ardal hon a ddaeth yn un o enwogion y genedl.A dathlu a wnawn - bydd hynny' n dod yn amlwg yn ystod y gwasanaeth - cawn gyfle i wenu a chwerthin - fyddai Now ddim am inni fod yn drist wrth gofio am ei fywyd - a thaflwn ddeigryn hefyd wrth gofio - a diolchwn am gymeriad annwyl a llawn. Roedd calon Now yn agos iawn i'w lle ac yr oedd ganddo galon fawr, er yn aml iawn yn llawn direidi. Profais innau hynny wrth ei gyfarfod - a'r ddau gocyn hitio bob tro oedd Ron a Neville!
Ganwyd Now yma ym mhentref Talybont, ac fel y dywedodd ef ei hun, 'y pumed o' r saith plentyn a anwyd i William a Nel Jones'. Un o ddyffryn Nantlle oedd ei dad, a'i fam o'r fro hon, o'r Carneddi. Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn a'r teulu sydd yma hefo ni heddiw a chofiwn yn arbennig am Helen sydd yn methu bod hefo ni.
Fel nifer o fechgyn eraill y dyffryn i weithio i'r chwarel, ond cyn hynny gweithiodd fel bachgen ysgol i gwmni E B Jones, yn 'cario allan' ar ddydd Sadwrn, ac nid oedd hynny heb broblemau chwaith fel ydywedai wrthym yn llyfr 'Yr Hogiau'. Bu hyn yn gyfle iddo brynu mowth organ iddo'i hun a dyna ddechrau tro newydd yn ei fywyd. Aeth y mowth organ i bobman wedyn - hyd yn oed i'r dwyrain canol pan oedd yn yr armi yn gwneud ei 'National Service'.
Daeth cyfle iddo fynd ar y radio wedi iddo ddychwelyd adra rhaglen Awr y Plant - canu'r mowth organ a dynwared anifeiliaid. Gweithiodd i Balfour Beatty a hefyd i'r relwe - aeth, fel y dywedai wrthym i Bedford i weithio am gyfnod a bod yn nes at ei chwaer Mair, ond dychwelodd yn ôl i'w gynefin. Cofiwn am y rhaglen deledu amdano yn gweithio i Gyngor Gwynedd ond tu cefn i'r cyfan oedd canu'r mowth organ adynwared.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn canu gwlad, ffilmiau cowbois - roedd John Wayne yn arwr mawr ganddo - a byddai wrth ei fodd yn gwisgo het gowboi. Mwynhaodd Gymanfaoedd Canu a bu' n gefnogol iawn i'r Eglwys hon pan wynebodd yr aelodau gostau mawr tua deng mlynedd yn ôl, a fo awgrymodd mai da o beth fyddai i'r Hogia gynnal cyngerdd mawreddog er mwyn helpu'r Eglwys. Fel y dywedais funudau yn ôl yr oedd ei galon yn y lle iawn.
Mae pawb ohonoch wedi dod i adnabod Now drwy ei berfformiadau gyda Hogia Llandegai dros gyfnod o 40 mlynedd, bron, a llawer ohonoch wedi darllen geiriau Now yn y llyfr am ei fywyd a hanes yr Hogia.
Roedd Now yn un o sylfaenwyr Hogia Llandegai - yn un o'r criw o wyth a gychwynnodd grŵp yn yr ardal am y tro cyntaf yn 1957, dan yr enw Criw Sgiffl Llandegai. Bu Now, ynghyd a Ron a Nev, yn aelodau parhaol o' r grŵp drwy gyfnod y sgiffl, cyfnod y pedwarawd a chyfnod y triawd. Roedd gan bawb ei ddawn a'i gyfraniad arbennig wrth gwrs, ond mae'r hogiau i gyd yn cydnabod mai Now oedd calon y grŵp. Now oedd yn gwneud Hogia Llandegai yn wahanol i unrhyw grŵp arall.
Mae rhai ohonom wedi ei edmygu am ei feistrolaeth o' r organ geg, neu am ei chwibanu, neu am ei ddawn fel dynwaredwr. Bu hefyd ar adegau, yn troi ei law at y gitâr, drymiau, llwyau ac ati. Yn ddi-os, 'gwr yr aml-ddoniau' oedd Now, ond o'r holl ddoniau, y ddawn fwyaf a feddai oedd y ddawn brin honno - y gallu i wneud i bobl chwerthin. I chwerthin lond eu bol, ac yn aml iawn i chwerthin hyd at ddagrau! Ond nid dyn deud jôcs oedd Now. Yn hytrach, llwyddai i ddenu ymateb cynulleidfa drwy ei sylwadau digri byrfyfyr, neu drwy ei ystumiau neu ryw edrychiad doniol.
Yn aml doedd dim rhaid iddo ddweud dim byd i wneud i bobl chwerthin - roedd edrych ar ei wyneb yn ddigon!
Perfformiwr wrth reddf oedd Now - roedd yn ei elfen o flaen cynulleidfa ac wrth ei fodd yn clywed pobl yn chwerthin. Yn wir, byddai ymateb da gan gynulleidfa ar ddechrau noson yn ysbrydoli Now i fynd o nerth i nerth gan dynnu'r 'stops' allan i gyd fel yr ai'r noson yn ei blaen.
Er i ni weld perfformiadau clodwiw gan Now a'r Hogia ar y teledu, mae'n deg dweud na lwyddodd y camerâu rhywsut i ddal holl ddoniolwch naturiol Now ar ei orau glas. A hynny, mae'n debyg, am mai digrifwr naturiol oedd Now, a'i hiwmor yn rhywbeth nad oedd yn bosib bob amser ei rihyrsio ar gyfer rhaglen deledu. Roedd rhai o' r pethau a wnai mewn ambell i noson fyw yn bethau hollol fyrfyfyr, yn ymateb i amgylchiadau'r funud ar y noson. Y broblem oedd nad oedd Nev a Ron yn gwybod beth oedd o am ei wneud nesaf!
Meddyliwch sawl gwaith y bu Nev a Ron yn ceisio cyflwyno'r eitem nesaf ar y rhaglen, a'r gynulleidfa' n rowlio chwerthin lle nad oedd chwerthin i fod, a hynny oherwydd bod Now yn gwneud rhywbeth digrif y tu ôl iddyn nhw! Er enghraifft, dod i'r llwyfan ar gefn treisicl bychan oedd yn digwydd bod wrth law yn y neuadd. Dro arall, yn dringo hanner ffordd i fyny ffrâm ymarfer corff oedd yn digwydd bod ar wal gefn y llwyfan gan fygwth swingio fel Tarsan ar un o'r rhaffau. Yn rhywle arall, tynnu ei gôt a cheisio'i hongian ar fachyn dychmygol ar wal gefn y llwyfan - a honno wrth gwrs yn disgyn i'r llawr bob tro. Wyddech chi ddim pa bryd y penderfynai ddod i'r llwyfan gan fras-ddynwared Graucho Marx, wedi plygu'n ei ddau ddwbl, gydag un llaw y tu ôl i'w gefn a'r llall yn dal ei organ geg fel sigâr!
A beth am ddefaid William Morgan? Doedd Now byth yn ei gwneud hi' n union yr un fath o gyngerdd i gyngerdd! Fyddai'r Hogia byth yn siwr sut gi fyddai ganddo ar un noson, p'un a fyddai ganddo gi bach pren ar olwynion ynteu ci go iawn, a hwnnw efallai wedi ei gipio oddi ar y stryd yn Stiniog, neu ble bynnag roedd yr Hogia yn digwydd perfformio ar y pryd. A dyna i chi'r noson honno yn y Majestic, Caernarfon yn 1979 pan ddaeth ag oen llywaeth drwy ganol y gynulleidfa i'r llwyfan!
Dyna i chi ryw ychydig enghreifftiau yn unig. Mae'n siŵr fod gennych chithau, bob un ohonoch, lawer o atgofion melys amdano'n 'mynd trwy'i betha' ac wedi cael llawer o HWYL wrth ei wylio hefyd!
A dyna oedd gair mawr Now - 'HWYL'. Roedd yn hollbwysig gan Now fod cynulleidfa yn cael HWYL. Ac onid ydi o'n wir i ddweud fod Now ei hunan yn ymgorfforiad o'r gair HWYL? Y ffaith ydyw, fel y gwyddom i gyd, mai nid dim ond dyn doniol ar lwyfan oedd Now, ond CYMERIAD (neu CYMÊR, fel y byddwn yn dweud yn yr ardal hon). Roedd yn gymeriad digri yn ei fywyd oddi ar y llwyfan hefyd, fel y tystia llawer ohonoch. Pan oedd Now yn galw heibio'ch cartref fe fyddai'n llenwi'r tŷ^ gyda'i fwrlwm a'i hiwmor ffraeth a'i dynnu coes didrugaredd - a phawb wrth eu bodd!
Roedd ei bersonoliaeth gyfeillgar, agos-atoch-chi, gweld-pawb-ymhobman, yn ennill calonnau pobl o bob oed. Does ryfedd fod ganddo gymaint o ffrindiau!
Er nad oedd, wrth reswm, yn gallu bod yn ei hwyliau gorau bob amser (fel pawbohonom), gallwn fod yn sicr ei fod, dros y blynyddoedd, wedi dod a llawenydd i fywydau miloedd o bobl o bob oed yng Nghymru a thu hwnt.
Medd Ryan yn ei gan adnabyddus - 'o ble gest ti'r ddawn o dorri calonnau?' Y ddawn i godi calonnau oedd dawn Now!
A dyna, heb amheuaeth oedd ei gymwynas a'i gyfraniad mawr i ni fel cenedl - gwneud inni chwerthin. Diolch amdano - bydd Cymru a'r byd adloniant yn llawer iawn tlotach hebddo.
Ceir rhagor o deyrngedau i Owen Glyn Jones yn rhifyn Medi 2004 o Llais Ogwan.