O fewn y ddau neu dri mis nesaf, bydd Cyfeillion Parc y Ponciau yn cyflwyno cais am grant i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r Cyfeillion wedi gwneud gwyrthiau i fedru cyflwyno'r cais mor sydyn gan fod y cam hwn yn cymryd misoedd ar fisoedd i'w baratoi. Mae swyddogion Cyfeillion y Parc am ddiolch yn gyhoeddus, trwy Nene, i Mr Jonathan Price, Cyngor Sirol Bwrdeisdref Wrecsam am weithio mor galed ar y prosiect ar eu rhan. Mae Mr Price a Chyfeillion y Parc yn gobeithio mai cael cefnogaeth y rhai sy'n dosbarthu arian Treftadaeth y Loteri fydd y cam pwysig cyntaf ac os bydd y cais am arian yn llwyddiannus, bydd hyn yn agor drysau i lawer o sefydliadau eraill sy'n cynnig nawdd - er enghraifft Sportlot ac ENFYS sy'n darparu offer chwarae ac adnoddau chwaraeon a hefyd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo. Ffynhonnell arall yw Treth Claddfeydd Sbwriel McEvan sy'n cynnig arian i ddatblygu ardaloedd sydd o fewn pum milltir i gladdfa sbwriel a gwastraff sy'n dal i gael ei defnyddio. Wal yr ardd goffa - cyfle i gyfrannu - prynwch fricsen! Mae'n fwriad codi wal o gwmpas Gardd Goffa a fydd yn cael ei gosod ar y tir ar dop Yr Avenue, uwchben lle roedd y cwrt tennis, ers talwm. Y syniad yw fod pobl yr ardal yn prynu bricsen a gosod enw a dyddiad rhywun er cof, neu eich enw eich hunan arni. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn gefnogol iawn i'r syniad yma ac maen nhw wedi dod o hyn i gwmni sy'n gwerthu brics o ansawdd uchel iawn. Mae'n dibynnu ar faint o bobl sy'n barod i archebu bricsen, wrth gwrs, ond awgrymwyd y byddai pob bricsen ac enw a dyddiad arni yn costio rhwng 拢25 a 拢30. Trefnu gweithgareddau Mae nifer o weithgareddau codi arian eisoes wedi'u cynnal (cafwyd adroddiad am y Ffair Haf ar y Ponciau yn Nene, ychydig fisoedd yn 么l.) Os ydych am wybod mwy am y prosiect a Chyfeillion y Parc, cysylltwch 芒 Mrs Jean Jones 4, Stryt y Weirglodd ar (01978) 840530
|