Cynllun yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd yn byw yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn astudio ar gyfer graddau rhan-amser yn y ganolfan yn Wrecsam. Cynnig cymhorthdal O dan y cynllun hwn bydd yr adran yn medru cynnig cymhorthdal o'i hadnoddau ei hun i ymgeiswyr sy'n cael eu hystyried yn haeddiannol, ond sydd am wahanol resymau yn methu bodloni rheolau'r cymorth cyhoeddus sydd ar gael. Dyfernir cymhorthdal o'r fath yn enw Bwrsari Glyn Thomas. Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mr Gwynn Matthews, Tiwtor Cydlynol y Gogledd-ddwyrain, fod y Bwrsari cyntaf eisoes wedi ei gynnig yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol. Ymdrechu'n egn茂ol dros addysg Mynegodd ei foddhad personol am y dull ymarferol hwn o goff谩u gwr a oedd wedi ymdrechu mor egn茂ol dros addysg oedolion am flynyddoedd maith. Gweithiodd Mr Thomas ei ffordd i fyny o'r pwll glo i stydi'r prifathro, meddai Mr Matthews, ac ef fyddai'r cyntaf i gydnabod ei ddyled fawr i ddosbarthiadau'r WEA a 'r Adran Allanol. Llawenydd mawr i holl gyfeillion Glyn Thomas fyddai gweld myfyrwyr yr ail-gynnig yn cael hwb ymarferol yn ei enw ef.
|