Cafodd y rhai oedd yn ffortunus i gael tocynnau noson i'w chofio gyda gwledd o gerddoriaeth - ni all bron i 900 fod yn anghywir.
Cyffelybodd un g诺r o Wrecsam, un gyda llaw sy'n gwybod be' di be; ym myd cerddoriaeth, y c么r i un o'r timau p锚l-droed gorau yn y Brif Adran, "Roedd ganddynt sglein a disgyblaeth sydd ddim yn cael ei glywed yn aml ac mae'n ddigon eglur bod John Daniel wedi gwneud ei farc ar y c么r."
Parhaodd y clod am gyngerdd i'w gofio am rai dyddiau gyda'r swyddogion yn cael nege卢seuon e-bost a galwadau ff么n ynghyd 芒 llythyrau a llongyfarchiadau personol. Gyda'r holl gyhoeddusrwydd sydd wedi bod o amgylch un o'r artistiaid gwadd, y mezzo 卢soprano hynod o adnabyddus Katherine Jenkins, roedd y cynulleidfa fawr yn ysu am ei chlywed. Ni chawson nhw eu siomi ac anwylodd y ferch o Gastell-Nedd ei hun iddynt gyda'i ymddygiad cynnes.
Felly hefyd y telynor Dylan Cernyw a chwaraeodd ddeuawdau hynod o bleserus gyda'r cyfeilydd Rona Jones.
Rhaglen Katherine
Yn ystod ei rhaglen talodd Katherine Jenkins deyrnged haeddiannol i'r cadeirydd. J. Nor卢man Davies, a'r ysgrifennydd, John Raymond Jones, am y ffordd roedd y ddau wedi ed卢rych ar ei h么l. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi wedi cael ei phlesio'n arw gyda sain y c么r gan obeithio am gael cyfle i rannu llwyfan gyda nhw eto yn y dyfodol. Dechreuodd Kath卢erine Jenkins ei rhaglen gyda O Sole Mio (Di Capua/Capurro) ac aeth ymlaen gyda I
Vow To Thee My Country (HolstlSpring-Rice), One Fine Day (Puccini/Giacosallllica), Dafydd y Garreg Wen, Habanera (Georges Bizet) a Somewhere Over The Rainbow
(Arlen/Harburg). Yn yr ail hanner canodd Amazing Grace (Carrell/Clayton/Newton), Music of The Night (Lloyd Webber/Hart), Cymru Fach (David Richards/ H. E. Lewis) gyda'r c么r yn canu'r cytganau, Time To Say Goodbye (E. Satori/L. Quarantotto) a We'll
Meet Again (Parker/Charles).
Eitemau'r delyn
Eitemau y telynor Dylan Cernyw a'r cyfeilydd Rona Jones oedd: Serch Hudol (John
Thomas), Caret Penil卢lion (Osian Ellis), Pan Ddaw Yfory (Caryl Parry Jones, trefni卢ant Rona a Dylan), Y Gadlys, y Perch o 'r Scer a Tros y Garreg (Cambria - John Tho卢mas). Un卢waith eto profodd Rona Jones ei bod yn feistres wrth y piano ac roedd Cernyw o'r radd flae卢naf - roedd perfformiad y ddau o sa卢fon uchel. Wrth gwrs mynnodd y gynulleidfa enc么r oddi wrth bawb.
Roedd rhaglen y c么r yn cynnig tipyn o bopeth - alawon gwerin, caneuon o'r sioeau, darnau operatig ac yn y blaen. Roedd ymateb y gynulleidfa yn arwydd eu bod nhw wedi taro deuddeg a rhaid oedd canu enc么r - Gwahoddiad gan John Tudor Davies yn bresennol. Canwyd unawdau gyda'r c么r gan Gareth Erlandson, Ian Pritchard Jones a David Scott.
Hwn oedd Cyngerdd Blynyddol cyntaf Cyfarwyddwr cerdd y c么r, John Daniel a barn pawb oedd ei fod wedi paratoi'r c么r i safon uchel iawn. Hefyd anwylodd ei hun i'r gynulleidfa gyda'i ysmaldod. Arweiniodd Aled Phillips, yr Is-gyfarwyddwr Cerdd, y c么r mewn tri darn ac, fel y sylwodd mwy nac un oedd yn y cyngerdd, roedd yn amlwg bod y ddau wedi gweithio'n galed gyda'r aelodau'n ateb i'w harweiniad.
Yn ystod yr ail hanner canodd y c么r tri o ddarnau oedd wedi eu trefnu gan gyn-Is卢Gyfarwyddwr Cerdd y c么r, y diweddar Emyr James. Buasai Emyr wedi bod wrth ei fodd.
Cafodd y gynulleidfa hwyl mawr cyn y diwedd pan ddaeth John Daniel a Kevin Whitley i'r llwyfan mewn gwasgodau gyda'r Ddraig Goch yn amlwg iawn arnynt.
Fel sy'n arferol roedd y cyfeilydd, Kevin Whitley, yn di-fai ar y piano ac mae'r c么r yn ffodus iawn i gael tri sydd mor hyddysg mewn cerddoriaeth.
Cyflwynodd yr is-gadeirydd, Harold Richards, yr eitemau a gwnaeth eu waith yn daclus.
Gweithiodd llawer yn galed iawn i wneud y Cyngerdd Blynyddol yn un mor llwyddiannus ac mae lle i ddiolch yn fawr iddynt. Roedd ganddynt swyddi gwahanol ac aethant ati i wneud eu rhan yn daclus ac yn ddi-ffwdan. Rhaid cyfeirio'n arbennig at Colin Aubrey, yr ysgrifennydd tocynnau. Cafodd waith caled yn delio 芒 phobl oedd eisiau tocynnau a oedd wedi cael eu gwerthu misoedd cyn y cyngerdd. Roedd y cyngerdd llwyddiannus yn ymdrech t卯m heb os.
Cyflwynodd Angharad Stead, wyres y tenor cyntaf Gareth Pritchard, flodeuglwm i Kath卢erine Jenkins ac i Rona Jones ac anrheg i'r telynor Dylan Cernyw.
Byddwch mewn pryd
Mae galwad cynnar am docynnau i Gyngerdd Blynyddol y flwyddyn nesaf. Roedd `pro forma' yn rhaglen y Cyngerdd Blynyddol diwethaf ac mae'r ysgrifennydd tocynnau ei卢soes wedi cael llawer o atebion oddi wrth bobl sydd am fod yn bresennol yn Neuadd Wil卢liam Aston, Wrecsam, nos Sadwrn, Tachwedd 18, 2006. Yr artistiaid gwadd fydd y pi卢anydd hynod o ddawnus o Bentrebychan, Ll欧r Williams, a'r mezzosoprano llwyddiannus Ann Murray.
Llythyr
Ymysg y pentwr o longyfarchiadau a gafodd ysgrifennydd y c么r, John Raymond Jones, oedd un o Hook yn Swydd Hants, oddi wrth y Cyrnol N. T. Davies, gynt o Drefynnon. Dywedodd ei fod o wedi bod yn ffortunus i gael tocyn a'i bod yn fraint cael bod yn bre卢sennol i glywed y fath wledd a thalodd deyrnged mawr i swyddogion ac aelodau'r c么r am berfformiad disglair.
Tair cenhedlaeth
Y mis diwethaf cymerodd y c么r ran yng nghyngerdd cyhoeddi G诺yl Cerdd Dant Cymru fydd yn cael ei chynnal yn Y Stiwt y flwyddyn nesaf. Yn canu gyda Ch么r Meibion y Rhos oedd yr ail fas Eirwyn Davies o Gaer ac roedd dwy ferch iddo, y Dr. Bethan Bayley a Mrs Carys Lang yn canu gyda Ch么r Clywedog. Yn ychwanegol roedd ei wyres, Elin Bayley, ar y llwyfan yn canu gyda Ch么r Ysgol Bodhyfryd.
Dal i ymuno
Unwaith eto rydym yn croesawu aelodau newydd i'r c么r - wel, un yn dod yn 么 ar 么l i alwadau gwaith ei rwystro rhag bod yn bresennol. Mae Paul Scott yn fwy rhydd ar hyn o bryd ac yn gallu ymuno 芒'i dad David a'i frawd Gareth unwaith eto. Yr aelod newydd ydy Sam Erlandson, brawd i Gareth, sydd yn un o unawdwyr y c么r. Mae'r aelodaeth yn codi'n gyson. Beth am ymuno?
Bodloni yn Byley
Cynhaliodd y c么r gyngerdd yn Byley, ger Knutsford, ym mis Tachwedd ac yr oedd y neuadd yn llawn i'r ymylon - yn wir roedd rhaid dod 芒 chadeiriau ychwanegol i mewn. Roedd ymateb y gynulleidfa yn dyst eu bod wedi cael noson wrth eu bodd ac roedd rhaid canu enc么r.
Unwaith eto aeth yr ysmaldod rhwng Cyfarwyddwr Cerdd y c么r, John Daniel, a'r cynulleidfa i lawr yn werth chweil. Arweiniodd yr Is-Gyfarwyddwr Cerdd, Aled Phillips, y c么r mewn tri darn yn yr ail hanner a'r cyfeilydd oedd Kevin Whitley. Yr unawdwyr oedd Jim Davies, Gareth Erlandson, Ian Pritchard Jones a David Scott. Cyflwynwyd yr eitemau gan David Thomas.