Daeth cynulleidfa niferus i Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, nos Fawrth Medi 29 am 7yh. Roedd neuadd yr ysgol yn llawn - gellid tybio fod tua 300 o gynulleidfa, yn Gymry Gymraeg a di-Gymraeg yr ardal (roedd offer cyfieithu ar y pryd ar gael). Yn fwy calonnog fyth, cyhoeddwyd fod y rhestr ymddiheuriadau yn rhy faith i'w darllen ar goedd.
Dosbarthwyd a chasglwyd ffurflenni yn gofyn am enwau a chyfeiriadau a pha bwyllgorau yr hoffai unigolion ymuno 芒 nhw a phwy fyddai'n awyddus i ymuno 芒 Ch么r yr Eisteddfod.
Estynnwyd croeso i bawb gan Aled Rhys Roberts, Arweinydd Cyngor Sirol Wrecsam, ac yna cyflwynodd yr awenau i Dafydd Whittall, Llywydd Llys yr Eisteddfod. Yna eglurodd Hywel Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, y newidiadau yn y dull y byddai'r is-bwyllgorau'n gweithredu: cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr is-bwyllgorau yn Ysgol Morgan Llwyd am 6.30 nos Lun, 19 Hydref, ac yna bydd y pwyllgorau'n treulio diwrnod cyfan yn yr ysgol ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd 2009, i ddewis testunau'r cystadlaethau, cyn eu cyflwyno i dderbyn sel bendith pwyllgorau canolog pob adran ar 23 Ionawr 2009. Gobeithir y bydd y Rhestr Testunau, gan gynnwys enwau'r sawl sydd am noddi gwobrau, yn barod i'w argraffu erbyn y gwanwyn. Dywedodd fod y dull hwn o weithredu yn fwy hwylus na chynnal cyfresi o gyfarfodydd wythnosol.
Cafodd y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau ac yna aethpwyd ymlaen i ddewis y prif swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith. Etholwyd Aled Rh. Roberts yn Gadeirydd, y Dr J. Philip Davies yn Is-Gadeirydd a derbyniwyd enwebiad Gareth Thomas yn ysgrifennydd.
Daeth Prydwen Elfed-Owens, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, 芒'r cyfarfod i ben, gan ddiolch i bobl ardal sir Wrecsam am eu cefnogaeth.
|