Agorwyd y trac BMX ym Mharc y Ponciau yn 2006 diolch i gyllid o 拢50,000 gan raglen Spaces for Sport Barclays, a chaiff ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'r safle ar agor i'r holl gymuned, ac mae beicwyr ifanc hefyd yn cael budd o hyfforddiant proffesiynol bob penwythnos gan Martin Ogden, fel rhan o Glwb BMX 'Wrexham Rebels' sydd 芒'i gartref yn y trac.
Bu Jon Harland, Swyddog Datblygu Beicio Cymru, yn cefnogi aelodau'r clwb a gymerodd rhan mewn ras lwyddiannus yn gynharach eleni ar drac Tipkinder yn Crewe, a gobeithir y bydd y ras ranbarthol cyn hir ym mis Ionawr yr un mor llwyddiannus iddynt. Dywedodd Shanaze Reade, sy'n beicio'n rheolaidd ar y trac ac a ddaeth i sylw llawer ar 么l ei hymdrech ddewr i ennill aur yn Chwaraeon Olympaidd Beijing, "Mae'r trac BMX ym Mharc y Ponciau yn gyfleuster chwaraeon cymunedol rhagorol ac yn gaffaeliad gwych i'r ardal. Mae'r clwb sydd 芒'i gartref yno yn cynnig cyfleoedd go iawn i ieuenctid lleol o bob oed, cefndir a gallu i wella'u sgiliau BMX, dysgu sut i gynnal a chadw beic a chael cyfle i feicio'n gystadleuol." Hefyd talodd deyrnged i ymagwedd gynhwysol y clwb a sut y gall y beicio fod o fudd i'r ifanc: "Mae'r beicwyr yn ganolog i'r clwb, ac felly mae gan bob beiciwr lais o ran sut y trefnir ac y datblygir gweithgareddau'r clwb. Mae BMX yn gamp wych i gyfeirio egni plant i rywbeth gwirioneddol gadarnhaol."
|