Ychydig cyn gwyliau'r Nadolig (8fed o Ragfyr 2005) fe dderbyniodd John Glyn Williams yr M.B.E. (Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig) gan y Tywysog Siarl, ym Mhalas Buck卢ingham, Llundain. Fe fu John Glyn dros gyfnod maith yn ymwneud 芒 cherddoriaeth yn y fro. Fe ymddeolodd ychydig yn 么l o'i ddyletswydd fel arweinydd C么r Meibion Orffiws y Rhos, ar 么l gwasanaeth o dros 40 mlynedd gyda'r c么r.
Fe fu hwn yn gyfnod llewyrchus iawn yn hanes y c么r, ac fe aeth o 芒'r c么r ar sawl taith ddiddorol gan gynnwys China, Israel, U.D.A., sawl gwlad yn Ewrop yn ogystal ag ar hyd a lled Prydain Fawr. Fe gafodd o hefyd y fraint o arwain Mil o Leisiau Corau Meibion Gogledd Cymru, yn Neuadd Albert, Llundain, am dri thro'n olynol - yn ogystal ag ennill y brif gystadleuaeth i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug.
Yn ystod y seremoni yn y palas chwaraewyd `Gw欧r Harlech' gan fand y Gwarchodlu Gwyddelig. Fe synnwyd John Glyn cymaint yr oedd Tywysog Cymru'n ei wybod am ei gefndir - a'i brofiad. Gwyddai'r Tywysog hyd yn oed bod dau g么r meibion yn y Rhos!
Fe' fu John Glyn ym Mhalas Buckingham, Llundain, am dderbyniad ychydig fisoedd ynghynt hefyd, pan wahoddwyd o (gyda tua dau gant o rai eraill) yno fel un oedd wedi bod 芒 chysylltiadau clos 芒 cherddoriaeth. Roedd y Frenhines ei hun yno ar yr achlysur hwnnw ac fel yr oedd John Glyn yn sgwrsio gydag Owain Arwel Hughes, (am y Rhos!), daeth y Frenhines atyn nhw i siarad. Ac wrth gwrs roedd Owain Arwel yn ei hadnabod hi, a dyma fo'n cyflwyno John Glyn iddi'n annwyl, gan egluro bod John Glyn yn ffrind iddo fo a'i dad gynt!
Emlyn Edwards, (Swyddog y Wasg i G么r Meibion Orffiws y Rhos)
Yn y llun gwelir John Glyn gyda'i fedal, a'i wraig Meira a'i ddwy ferch, Elin a Lowri. Roedd ei fab Dylan a'i wraig yn Llundain hefyd, ond gwahoddiad i dri yn unig oedd i'r palas. Ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i John Glyn.
|