Dim ond pedwar - tair soprano ac un tenor oedd yn y rownd derfynol eleni - ond roedd dwy o'r ardal hon - sef Cecilia Eleri Smyga a Camilla Roberts. Camilla oedd dewis y pum beirniad ar y noson. Fe ddaeth rhieni Camilla i'r Rhos i gadw'r siop yn y Stryd Lydan (a ddaeth i gael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Siop Ann). Maen nhw'n byw r诺an yn Stryt Isa, Pen-y-cae ac mae ei thad Barry Bland Roberts yn rhedeg ysgol yrru ceir. Mae'n amlwg fod traddodiad lleisiol ar yr aelwyd oherwydd wedi cyfnod efo C么r Meibion Froncysyllte fe fu ei thad yn denor yng Ngh么r Meibion yr Orffiws. Dydy hi ddim yn syndod felly bod Camilla wedi iddi dderbyn ei haddysg yn Rhiwabon a Choleg I芒l Wrecsam wedi mynd i Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, Llundain. Ar 么l iddi raddio yno fe fynychodd Gwrs Opera'r Guildhall gan astudio gyda Laura Sarti. Wedyn yn 2003 cwblhaodd astudiaethau 么l radd pellach yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol Llundain a hynny o dan nawdd Opera Cenedlaethol Cymru. Fe dderbyniodd hi ysgoloriaethau gan Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, Ymddiriedolaeth Sybil Tutton, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Iarlles Munster, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Ysgoloriaeth S4C a Gwobr Harold Rosenthal. Hi oedd yr ieuengaf yn rownd derfynol cystadleuaeth newydd Bwrsariaeth Kathleen Ferrier ac fe ddaeth hi i'r rownd derfynol yng nghystadleuaeth Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Fe fu Camilla yn teithio yn Awstralia a Seland Newydd. Ymhlith ei chyngherddau ym Mhrydain fe gafwyd Magnificat Bach yn St. John's, Smith Square, ac ymddangosiadau efo cantorion rhyngwladol megis Willard White a Dennis O'Neill. Fe fu Camilla yn aelod o gorws Opera Gwyl Glyndebourne yn 2002, pan fu'n dirprwyo ar gyfer rhannau Donna Anna, Don Giovanni a Iarlles, Le Nozze di Figaro a Micaela Carmen i Opera Teithiol Glyndebourne. Y tymor hwn ymunodd Camilla 芒 Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar gytundeb Artist Cysylltiedig i chwarae rhannau Micaela Carmen, Flower Maiden Parsifal a dirprwyo ar gyfer rhan Tatyana Eugene Onegin. Yn ddiweddar recordiodd Camilla ari芒u Fiennaidd gyda'r Gerddorfa Ffilharmonig Brenhinol a bydd yn cael ei rhyddhau yn hwyrach yn y flwyddyn. Dymunwn bob hwyl i Camilla yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd ym 2005.
|