Dim ond tair ysgoloriaeth sy'n cael eu cynnig bob blwyddyn ac estynnwyd gwahoddiad i Aled, sy'n athro cerdd yn Ysgol yr Alun, Yr Wyddgrug, gynnig am un o'r ysgoloriaethau hyn.
Bu'n rhaid iddo fynd trwy nifer o gyfweliadau ac er bod ugeiniau ledled gwledydd Prydain wedi ymgeisio am un o'r tair ysgoloriaeth, Aled gafodd ei ddewis gan y panel beirniaid. Bydd yn golygu ei fod yn teithio llawer yn ystod 2006 a bydd yn derbyn hyfforddiant gan arweinyddion profiadol ym myd corau a cherddorfeydd.
Cafodd Aled sawl llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol tra bu'n arwain Cantorion y Rhos. Bu hefyd yn Is卢-arweinydd C么r Meibion y Rhos ac yn arweinydd dros dro C么r Merched y Rhos. Yn ddiweddar, ffurfiodd g么r i berfformio rhai o emynau ac anthemau Dr. Caradog Roberts i ddathlu 70 mlwyddiant marw'r cyfansoddwr.
Cynhaliwyd cyngerdd yng Nghapel Bethlehem pan ddaeth Undeb yr Annibynwyr i'r ardal ddechrau Gorffennaf a, chyn y Nadolig, darlledwyd y gyntaf o ddwy raglen a recordiwyd ar gyfer Caniadaeth y Cysegr ar Radio Cymru. Bydd ail raglen emynau Dr. Caradog yn cael ei darlledu yn gynnar ym 2006.
Mae ganddo, er yn ifanc, bellach gryn brofiad o arwain corau. Pob dymuniad da iddo yn ystod blwyddyn ei ysgoloriaeth. Bydd corau lleol a'i g么r yn Ysgol yr Alun yn elwa'n fawr o'i brofiadau ar y cwrs.
|