Fe fydd yn creu cerfiadau cerrig mawr i ddathlu treftadaeth cyfoethog y Rhos a'r Ponciau.
Dechreuodd Anthony weithio ar y prosiect yr hydref diwethaf ac mae'n cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chywaith Cymru.
Mae Swyddog Datblygu Parc y Ponciau, Katie Birks, wrth ei bodd bod cyfuod olaf y prosiect ar waith erbyn hyn. Fe ddywedodd: "Prif nod y prosiect arbennig hwn ydy dathlu arwyddoc芒d diwylliannol a hanesyddol y parc. Y mae ymglymiad cymunedol wedi bod yn elfen allweddol trwy gydol y prosiect preswyl ac mae llawer o bobl leol wedi rhannu eu straeon a'u hatgofion gydag Anthony i'w helpu i lunio cerfiadau cwbl unigryw
Bydd Anthony yn gweithio ym Mhafiliwn Bowlio Rhosllannerchrugog bron i bob dydd Mawrth a dydd lau tan ganol mis Gorffennaf. Gofynnir i aelodau o'r gymuned alw heibio i weld y cerfiadau neu i roi cynnig ar gerfio cerrig eu hunain hyd yn oed.
Fe gafodd Anthony ei eni yn Chorley yn Swydd Gaerhirfyn a threuliai ei wyliau i gyd pan oedd yn ifanc yng Ngogledd Cymru. Aeth i Goleg Celf Preston ac wedi graddio yno treuliodd gyfnod yn Rhufain yn dysgu sut i drin marmor. Dywedodd mai profiad bythgofiadwy oedd mynd i'r chwarel farmor enwog yn Carera lle bu Michaelangelo'n dewis cerrig. Nid marmor mae'n ei gerfio ar y Ponciau wrth gwrs ond slabiau tywodfaen lleol
ynghyd 芒 rhai cyffelyb o Swydd Efrog. Fe ddefnyddiodd gerrig tebyg ar gyfer y cerfiadau sydd i'w gweld ar y fynedfa i'r draphont dd诺r yn Nhrefor. Ac nid cerrig yn unig mae'n gerfio ond coed - mae enghraifft o' i waith, sef coeden enfawr oedd wedi ei tharo gan fellten, i'w weld yn Nhafarn y Celyn (Loggerheads) Sir y Fflint.
Dywedodd Anthony: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd at weithio ar y prosiect hwn ar Barc y Ponciau. Y mae cerfio cerrig yn ddiddorol lawn a byddwn i'n croesawu unrhyw un sydd am ddod a rhoi cynnig arno eu hunain".
Ac yn wir nid dod yn 么l i weithio yn unig. Fe hoffai brynu t欧 yn yr ardal a symud yma o Lundain.
|