Bydd y chwech o'r Rhos - Darren Jones, Andy Norgrove, Gary Norgrove a'i wraig Kim, Chris Evans a Gwilym Jones (Pen-y-cae) - yn dechrau yn Llanberis, i fyny at Ben-y-pas, i lawr i Feddgelert yna i Waun fawr, dros Fwlch y Groes ac yn 么l i Lanberis. Ond, yn ogystal 芒 rhedeg y milltiroedd, bydd angen dringo nifer o elltydd serth ac erbyn diwedd y ras bydd y rhedwyr wedi dringo dwywaith uchder yr Wyddfa!
Mae'r chwech wedi bod yn ymarfer yn galed - yn rhedeg 12 milltir ddwywaith yr wythnos ac 20 milltir dros y Sul, gan ddewis hynny o elltydd sydd ar gael ar eu ffordd i fyny Bronwylfa a dros Fynydd y Rhos am Langollen a Dinas Br芒n a'r Eglwyseg. Bydd Chris Evans yn rhedeg marathon arall dim ond cwta bythefnos cyn ras fawr Eryri!
Mae llun a hanes Darren Jones yn rhedeg marathonau Llundain ac yn y blaen wedi ymddangos yn Nene droeon a gan amlaf mae'n rhedeg i godi arian at achosion da. Yr elusen y bydd y chwech yn ei noddi eleni fydd Uned y Babanod Ysbyty Maelor.
Mae 'potel achosion da' yn cael ei llenwi bob yn dipyn yn y Clwb Snwcer ar Stryt y Farchnad a gellwch anfon eich cyfraniadau yno neu, os mynnwch, trwy Nene.
Bydd y ras yn cael ei rhedeg ddydd Sadwrn, Hydref 24, a bydd ffilm o'r ras yn cael ei dangos ar ddydd Sul, Hydref 25.
|