Bu ei lais yn gyfarwydd i wrandawyr Sain y Gororau am flynyddoedd yn nyddiau cynnar yr orsaf radio honno ac wrth hel straeon ar gyfer ei raglenni gwelwyd Aled yn aml ar strydoedd ac aelwydydd ardal y Rhos. Dyn ei filltir sgw芒r yw Aled ac mae wedi seilio llawer o'i gerddi a'i nofelau yn ardaloedd Wrecsam a'r Rhos ac mae ei gyfrol newydd Y Caffi wedi'i seilio ar y cymeriadau sy'n mynd a dod yng nghaffi Llyfrgell Wrecsam. Darn bach o fywyd Ond er mai dyn ei filltir sgw芒r yw Aled, mae gorwelion ei gyfrolau yn estyn llawer pellach na'r ardal hon, ac mae'r caffi yn ddarn bach o fywyd pobol yn y gymdeithas sydd ohoni ar ddechrau'r 21 ganrif. Meddai Aled am ei nofel, "Mae'n damaid realistig o fywyd sy'n disgrifio'r cyfnod 么l -fodernaidd lle mae gan bob cymeriad ei realiti a'i safonau ei hunan. Mae rhai'n dod i'r caffi i chwilio am loches rhag holl newidiadau a helbulon y byd mawr o'u hamgylch. Yn y gyfrol ceir nifer o ymsonau sy'n rhoi cyfle i'r cymeriadau fyfyrio uwchben eu hunaniaeth arbennig eu hunain." Mae Aled wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers deng mlynedd bellach ac i raddau helaeth sail y gyfrol yw'r oriau a dreuliodd yntau yng Nghaffi'r Llyfrgell dros y blynyddoedd - lle a fu'n ysbrydoliaeth iddo ac sy'n agos iawn at ei galon. Cymdeithas hynod "Mae'ne gymdeithas hynod yno", meddai, "a dwi'n gobeithio na fydd yr holl newidiadau a'r cynlluniau newydd sydd ar y gweill ar gyfer y safle yn golygu bod y caffi am ddiflannu. Mae'n haeddu ei ddiogelu, gan ei fod yn ganolbwynt i fywydau pobol - mae'n fwy na chaffi, mae'n fan cyfarfod - mae'n Gaffi Bywyd lle rydyn ni'n gallu cymryd hoe, cael sgwrs neu ymlacio wrth y byrddau ar 么l ymweld 芒'r llyfrgell." Mae nifer o gymeriadau yn y gyfrol y mae Aled wedi eu cyfarfod o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd - er enghraifft y cyn-athro oedrannus o'r Rhos, Dai Owen, sy'n gymeriad amlwg yn y gyfrol newydd ac ambell gymeriad digon diddorol a thra lliwgar o Wrecsam. Rhannu eu pryderon a'u gobeithion Mae'r rhai sy'n ymweld 芒'r caffi'n sgwrsio ymhlith ei gilydd ond mewn ambell ymson maen nhw'n cyfarch y darllenydd ac yn rhannu eu pryderon a'u gobeithion ag o. Mae'r gyfrol yn gymysgedd o'r difyr a'r dwys a byddwch yn adnabod y dafodiaith ac yn ymateb i ffraethineb unigryw y fro. Bydd pynciau trafod yn ingol gyfarwydd i chi hefyd - effeithiau cau gwaith dur Brymbo ar deuluoedd ac unigolion, technoleg yn bygwth swyddi, a chymeriadau unig sydd ar goll yn hwrli-bwrli'r byd cyfoes. Y Caffi yw Nofel y Mis ar gyfer mis Mai.
|