Gyda diolch am nawdd ariannol gan Mersey Waste Holdings Cyf., Sefydliad Ailgylchu Gwastraff Amgylcheddol (WREN), mae Prosiect Bywyd Gwyllt Cymunedol Johnstown dan gyfarwyddyd Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru, wedi bod wrthi'n datblygu Parc Stryt Las yn Johnstown. Bydd y gwelliannau y maen nhw'n ei wneud yn cyfrannu tuag at Wrecsam yn ei Blodau pan fydd yr ardal yn cystadlu yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau a drefnir gan y Gymdeithas Arddio Brenhinol. Mae nifer fawr o wirfoddolwyr lleol wedi bod yn helpu ar Brosiect Stryt Las a fydd o fantais i fywyd gwyllt y safle, i ymwelwyr ac i'r gymuned leol.
Meddai Remani Jones (Swyddog Bywyd Gwyllt Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru): "Mae Parc Stryt Las yn ardal bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig amffibiaid sy'n cynnwys y Fadfall Grib Aur, yn wir mae Stryt Las yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n rhan o Safle Cadwraeth Arbenning Johnstown - a hynny am ei bod yn un o ardaloedd pwysicaf Ewrop ar gyfer magu amffibiaid."
Mae'r amffibiaid hyn, fodd bynnag, mewn perygl am fod datblygiadau adeiladu ac yn y blaen yn cymryd darnau helaeth o'u cynefin; mae cyflwyno rhywogaethau o blanhigion estron i'r llyn, fel ewinedd y gath ('stonecrop') o Awstralia a hefyd bysgod sy'n bwyta madfall, yn fygythiad i boblogaeth y fadfall grib aur ar y safle. Mae'r Adran Bywyd Gwyllt ym Mharc Stryt Las yn gofalu am y llyn a'r llynnoedd bach ar y safle, yn gwneud arolwg o'r amffibiaid, yn achub y madfall, llyffaint a broga o'r ffos wrth ymyl y ffordd gydol misoedd y gwanwyn a'r haf.
Meddai Remani Jones, "Mae ymateb pobl leol i harddu Parc Stryt Las wedi bod yn wych, gan gynnwys gwaith anhygoel plant yr ysgolion leol. Maen nhw i gyd wedi gwella amgylchedd yr ardal a chynyddu gwerth addysgol a bywyd gwyllt y parc. Bu plant Ysgol y Babanod, Johnstown, yn helpu i lunio Bwrdd Egluro newydd, plant Ysgol Gynradd Johnstown yn adeiladu llochesi gaeafu i'r amffibiaid i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw fridio, a phlant Ysgol Maes y Mynydd yn symud y sbwriel oddi ar y safle. Mae eu gwaith caled wedi bod o fantais i'r amgylchedd ac ymwelwyr fel ei gilydd.
"Mae taflu sbwriel wedi bod yn broblem fawr ym Mharc Stryt Las yn ddiweddar a rydyn ni'n gobeithio y bydd gwaith y plant yn glanhau'r safle yn codi cywilydd ar y rhai sy'n taflu sbwriel yno ac yn helpu i ennyn balchder yn y safle yn hytrach na'i ddefnyddio fel twll sbwriel a gwastraff t欧. Mae biniau sbwriel wedi eu gosod ar y safle a gobeithio y byddan nhw'n eu defnyddio ac y bydd pobl sy'n cerdded eu c诺n ar hyd lwybrau'r Parc yn codi baw eu c诺n yn lle ei adael ar y llwybrau, gan beryglu iechyd plant a phobol."
Bydd beirniad Cystadleuaeth y Gymdeithas Arddio Frenhinol 'Cymru yn ei Blodau' yn ymweld 芒 Pharc Stryt Las a mannau eraill yn yr ardal yn ystod Gorffennaf a byddan nhw'n cyfarfod 芒'r plant a fu'n gweithio i harddu amgylchedd y Parc ac yn plannu planhigion yno.
|