Cododd Rhos Darian Cymru ar 么l curo Corwen 4-2 o flaen tyrfa o fwy na 200 ar gae Plaskynaston, Derwyddon Cefn ddydd Sadwrn y 12fed o Fai. Talodd Steve Walters, y g诺r tu 么l i'w buddugoliaeth, deyrnged i'w d卯m ac mae r诺an wedi gosod sialens bellach iddyn nhw geisio sicrhau lle yn y Cymru Alliance.
"Dyma'r gwpan fwyaf y gall Rhos ei hennill, ac rydym wedi llwyddo", dywedodd Walters. "Mae'n llwyddiant arbennig i'r clwb. Rydyn ni i gyd yn awyddus i'r fuddugoliaeth yma arwain at rywbeth arall. Yn fathemategol, gallwn ennill y gynghrair o hyd, er mai Brymbo yw'r ffefrynnau, rydyn ni am roi cynnig arni.
Mi fyddwn yn gryfach y tymor nesaf, ond roedd dydd Sadwrn yn troi o gwmpas ennill y gwpan a rhoi Rhos yn 么l ar y map p锚l-droed.
Rydyn ni hefyd wedi elwa'n ariannol o ennill dydd Sadwrn ac mae hynny mor bwysig ar gyfer clwb fel Rhos. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni, ac mae'n wobr am yr holl waith caled a wnaeth pawb sy'n gysylltiedig a'r clwb."
Yn un o'r gemau pwysicaf yn eu hanes yng ngolwg sawl, fe gafodd Rhos y dechrau gorau posibl trwy fynd ar y blaen ar 么l pedwar munud. Llwyddodd Tony Cann i ddianc i fyny'r asgell dde i fwydo'r b锚l i'r prif sgoriwr Matty Holmes, a drechodd y ceidwad efo ergyd i'r gornel isaf.
Dyblodd Rhos y blaen yn y 12fed munud pan sgoriodd Cann o 12 llath.
Roedd gweddill yr hanner yn eithaf bl锚r, efo Rhos yn dal a mantais o ddwy gol, ond heb gynhyrchu'r gem basio rydd y maen nhw wedi ei dangos dros y wythnosau diwethaf. Ac fe ddaeth y ceidwad Kevin Andrews i achub Rhos ag arbediad gwych pan lwyddodd Corwen i osgoi'r trap camsefyll cyn yr egwyl.
Fe ddechreuodd Corwen yr ail hanner yn edrych tuag at ddod yn 么l i'r g锚m. Ond er i Andrews gael ei brofi ag ymgais o bell, Rhos a gipiodd y g么l nesaf. A hynny ar yr awr pan lwyddodd yr amddiffynnwr Rob Salisbury i gyrraedd yr uchelfannau a phenio i gefn y rhwyd.
Gyda dim i'w golli, taflodd Corwen bopeth at Rhos gan ddod a hi'n 么l i 3-1 efo peniad cadarn oddi wrth Iwan Jones ag 20 munud i fynd.
Ond ymatebodd Rhos yn syth ar ben arall y cae gan adfer eu mantais o dair gol pan drosodd Geraint Williams wrth y postyn pellaf ar 么l ychydig o chwarae dawnus ar yr asgell gan y Sbaenwr slic Jose Alkatra.
Fe drosodd Eilir Edwards gic o'r smotyn i Gorwen yn yr 80fed munud, ac er i'w dim weld llawer o'r b锚l yn y 10 munud olaf, daliodd Rhos yn gadarn i godi'r gwpan.
Hei lwc am ddyrchafiad!
|