Roedd hyn yn addas iawn yma, wrth gwrs, ond yr hyn sydd yn syndod ydy mai cyn lleied o'r cystadleuwyr oedd yn deall pwysigrwydd ac arwyddoc芒d y lamp - hyd yn oed ymhlith rhai o ieuenctid yr ardal ei hun.
Er bod s么n am weithio glo mor bell yn 么l 芒 1414 yn ardal Coedpoeth a Brymbo ni ddaeth trefn ar y diwydiant tan y ddeunawfed ganrif. Ym 1715 fe agorodd John Mellor o Erddig bwll ym Mryn yr Owen ac ym 1762 yr oedd pwll yn cael ei weithio yn Llwynenion yn ogystal 芒 nifer o byllau bach yn Aberderfyn ac yn ardal Allt-ty-gwyn.
Ond fe roddodd dau beth pwysig iawn symbyliad i'r diwydiant glo yn y ddeunawfed ganrif. Y cyntaf oedd darganfod y broses o ddefnyddio golosg i wneud haearn gan Abraham Darby ym 1709. Yr ail oedd yr 'injan stem' a ddyfeisiodd James Watt ym 1769 gan greu galw mawr am lo ar gyfer y ffatr茂oedd newydd. Fodd bynnag yn y pyllau cynnar yr oedd problem enfawr yngl欧n 芒 chael system wyntyllu effeithiol. Y dull a ddefnyddiwyd ar y dechrau oedd suddo dwy siafft. Yna cyneuid t芒n yng ngwaelod un siafft fel bod yr awyr gynnes yn codi ac yn tynnu awyr ffres i lawr y siafft arall ac roedd hwnnw wedyn yn mynd o amgylch y pwll.
Oherwydd y gwyntyllu gwael hwn roedd nwy, sef methane neu fire-damp yn casglu yn y pwll ac roedd hwnnw'n cael ei danio'n hawdd gan y canhwyllau a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr i roi golau. Achosodd hyn lawer iawn o ddamweiniau erchyll efo llawer yn cael eu llosgi'n ofnadwy ac eraill yn colli eu bywydau. Aeth pethau mor ddrwg nes gorfodwyd llywodraeth y dydd i gomisiynu'r cemegydd enwog Syr Humphrey Davy i ddyfeisio lamp oedd yn ddiogel yn y pyllau glo. Ac ar 么l tipyn o waith ymchwil erbyn 1815 fe greodd Davy lamp debyg i'r un welir yn y llun (ar y chwith).
Cyfrinach y lamp ydy'r feinwe- gauze- sydd o gwmpas y fflam. Mae hwn wedi ei wneud o gopr sydd yn trosglwyddo gwres yn effeithiol. Er enghraifft gwirion fyddai gwneud procar t芒n allan o ddarn o gopr gan y buasai'n rhy boeth i afael ynddo.
Petai'r lamp mewn awyr oedd yn cynnwys nwy fe wn芒i hwn ffaglu y tu mewn i'r feinwe gan fod y copr yn tynnu allan y gwres ac yn rhwystro'r nwy tu allan i'r lamp rhag ffaglu. Ac yn achosi i'r lamp ddiffodd.
Fe gafodd nifer o welliannau eu gwneud i'r lamp dros y blynyddoedd. Erbyn y 1960au roedd y lamp yn cynnwys gwydr pairecs sy'n gwrthsefyll gwres. Yn ogystal gosodwyd dwy feinwe- un y tu mewn i'r llall i weithio fel 'bonet' i ddiogelu'r feinwe- a defnyddio tanwydd nad oedd yn cynhyrchu llawer o huddygl.
Er i lampau gael eu defnyddio yn y pyllau yn ddiweddarach yr oedd y lamp olew yn parhau i fod yr un mor bwysig ag erioed er mwyn darganfod nwy mewn pwll. Mae methane yn sgafnach nag awyr ac yn tueddu i gasglu mewn tyllau yn y 'roof' (`roof, sylwer ac nid to!). Mae modd mesur faint o nwy peryglus sydd yn bresennol yn yr awyr trwy droi fflam y lamp yn isel iawn. Os oes nwy'n bresennol fe fydd yn ymddangos fel eurgylch neu `halo' trionglog ar ben y fflam. Ac os oes 4% neu fwy o nwy yn yr awyr fe fydd yn ffaglu y tu mewn i'r lamp. Mae hyn yn arwydd ei bod hi'n beryglus i'r coliar weithio yn y fan a'r lle.
Felly pan fydd enillwyr yr 糯yl Gerdd Dant yn edmygu eu tlysau gobeithio y byddan nhw'n rhoi diolch distaw i Syr Humphrey Davy am ddyfeisio'r lamp coliar. Yn si诺r ddigon fe wyddai pob coliar ei gwerth.
(Diolch i'r coliar tanddaearol am rannu ei wybodaeth a'i brofiad am fywyd y pwll glo. Gobeithiwn y medrir ei berswadio i restru rhai o'r termau a'r eirfa oedd yn perthyn i'r diwydiant glo - yn enwedig ym Mhwll Hafod - ac sydd wrth gwrs mewn perygl o ddiflannu am byth. Y pyllau glo wedi'r cwbl yw ein treftadaeth.)
Cliciwch yma i ddarllen am Lampau'r Golwyr - gwobrau yr 糯yl Gerdd Dant
Gwefan G诺yl Gerdd Dant Rhos 2006
|