Syniad plant yr ardal oedd y brosiect i lunio murlun i'w osod ar wal Llyfrgell y Rhos i'r chwith o'r brif fynedfa. Cafodd yr awgrym ei drafod yng nghyfarfod Y Cyngor Ieuenctid a llwyddwyd i gael grant i fynd ymlaen 芒'r gwaith dan Gynllun Trefi Taclus a weinyddir gan Gyngor Sirol Wrecsam.
Penodwyd artistiaid a fyddai'n arolygu'r brosiect, Kathryn Bradley ac Andrea Birt, a bu plant holl ysgolion uwchradd a chynradd yr ardal (gan gynnwys ysgolion Dinas Br芒n a Llannerch Banna - Penley - am fod llawer o blant ardal y Rhos yn mynd yno) yn cymryd rhan yn y brosiect.
Buont yn gweithio ar eu lluniau a'u syniadau yn eu hysgolion eu hunain cyn eu cyflwyno i'r beirniaid, Emyr Prys, a'r artistiaid preswyl a'r Cynghorydd Jean Lawrence Jones. Yna trefnwyd bod artistiaid y lluniau buddugol yn cael tair sesiwn o gydweithio efo'r artistiaid preswyl i ddod 芒'r holl syniadau i mewn i un murlun lliwgar.
|