Dyma ei hanes yn ei eiriau ei hun:
Peter Palmer dw i a dw i'n d诺ad o Stoke-on-Trent. O'r ystafell wely yn fy nh欧 yn Bignall End, Stoke, dw i'n gallu gweld Moel Famau a bryniau Cymru. Mae gen i lawer o ffrindiau yng Nghymru a dw i'n mwynhau cerdded yn y wlad ac ar lan y m么r yno. Hefyd, bob blwyddyn dw i'n mynd efo'r teulu i aros mewn carafan yn fy hoff le - Harlech. Mae'n wych!
Dw i''n hoffi Cymru, dw i'n hoffi'r bobl and dw i'n hoffi'r iaith Gymraeg. Dw i'n d诺ad i Ysgol y Grango ar nos Lun i ddysgu Cymraeg. Cynllunydd adeiladau dw i a dw i'n cael tipyn o waith yng Nghymru felly dw i'n falch ac yn hapus i roi'r iaith Gymraeg ar fy fan.
Mae gen i hen lyfr yn y t欧 - geiriadur Cymraeg. Roedd fy nhaid, Richard, yn bregethwr Methodist. Ar 么l ymddeol yn gynnar, mi ddaru o dreulio amser yn mynd yn 么l i'w wreiddiau ysbrydol - Methodistiaeth Cymraeg. Roedd o'n mwynhau siarad efo pobl am eu cred yn Nuw - neu eu diffyg cred - ar hyd arfordir gogledd Cymru. Roedd o isio dysgu Cymraeg i gyfathrebu yn yr iaith o'r galon. Truan...mi ddaru o fethu. Dw i'n hoffi siarad efo pobl am eu cred yn Nuw hefyd. I siarad yn yr iaith o'r galon ydy'r peth gorau.
Hefyd dw i'n hoffi gweithio efo siaradwyr Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn anodd iawn, iawn! Ond mae'n fraint yn wir. Mae Cymraeg yn ysbrydoli pobl i'r celfyddyd a'r farddoniaeth orau. Mae Cymraeg yn hardd iawn ac yn ysbrydoli'r bywyd gorau.
Dw i ddim yn credu mewn cenedlaetholdeb cul ond mae gan bobl o bob gwlad lawer i gyfrannu i'r byd. Trwy ddysgu Cymraeg dw i'n rhan fach o'r pethau da mae Cymru yn cynnig. Mae'n wych iawn!
|