Cyfeiriodd John Oldfield, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gelf y Stiwt at gyfraniad David i'w gymdeithas nid yn unig fel aalod o bwyllgorau"r Stiwt ond hefyd fel Cynghorydd Bro ac Ynad Heddwch.
Bu ei brofiad fel Peiriannydd Trydanol yn gymorth mawr yn nyddiau cynnar adnewyddu'r adeilad.
Yn y 1990au, ar 么l llwyddiant sioe gymunedol Rhos 1990, llwyddodd af a Nancy Jones i annill cefnogaeth ariannol sylweddol gan Gyngor y Calfyddydau a Chyngor Wrecsam, a thrwy hynny ailagorwyd y Stiwt ym 1999..
Diolchwyd i Bernie Clarke am hyrwyddo'r syniad o gael eofeb i David yn y Stiwt ae i Cecil Edwards ac Emyr Gilpin am ei gosod yn ei le.
Roedd Nancy Jones wedi dod o Gaerdydd i'r seremoni ac, yn addas iawn, y ddwy Nancy gafodd y fraint o ddadorchuddio'r gofeb.
Mae'r geiriau "Gwireddwyd Breuddwyd sydd arni yn dystiolaeth gymwys a theilwng i'r hyn a gyflawnwyd.
|