Roedd William Dodd a'i wraig Elizabeth yn byw yn Elm House a gellir gweld y t欧 heddiw o Stryt Y Doctor, wrth edrych i mewn i iard a lladd-d欧 David Thomas y cigydd. Doedd gan William ddim gair o Saesneg; doedd gan ei wraig, Elizabeth, ddim gair o Gymraeg pan briodon nhw, ond buon nhw'n byw yn ddedwydd yn eu cartre ger y Barics, a magu llond t欧 o blant yno - naw merch a dau fab. Bu farw un o'r meibion yn ifanc ac enw'r unig frawd a oroeseodd oedd Watcyn. Un o'r merched oedd Sarah Hannah, mam Glyn Evans ac un arall oedd Doris, mam Hubert Pearce, a phriododd un arall, Elizabeth Elin, Albert Stanley Jones a phridodd eu merch, Megan, y prifathro a'r dramodydd Ronald Hadlington. Daeth Elizabeth i'r Rhos o ardal Cefn ond roedd gwreiddiau'r teulu yn Pemblebury, Oldham, yn 么l Glyn Evans. Roedd William Dodd yn frawd i Joe Dodd (tad Brinley Dodd) a brynodd Blas Llannerchrugog. Byddai pobl yn nabod William Dodd fel William Dodd y Barics. Ond pam Barics? Y Barics (Barracks) Yn 么l John Evans, yn ei lyfryn gwerthfawr "History of Rhos" roedd nifer o ardal y Rhos wedi ymuno 芒 chatrawd o filwyr dan arweiniad Syr Watkin Williams Wynn o Blas Wynnstay. Yr enw ar y milwyr hyn oedd Ancient British Fencibles ond fe'u gelwid hefyd yn 'The Bloody Britons' a Sir 'Watkin's Lambs'. Ffuriwyd y gatrawd yn 1794 pan oedd Ffrainc yn bygwth ymosod ar wledydd Prydain. Yna, ym 1797 fe'u hanfonwyd i Iwerddon a buont yn ymladd yn ystod yr helyntion yn Iwerddon ym Mai 1798 pan gododd y Gwyddelod (The United Irish) mewn gwrthryfel dan arweiniad Wolfe Tone. Dyna pryd y bu Brwydr Vinegar Hill (llygriad o enw Gwyddelig ydi "vinegar'!) ac, yn ol John Rhosydd Williams eto, pan ddaeth y milwyr yn 么l i'r Rhos, dyma nhw' n rhoi'r enw 'Vinegar Hill' ar Allt T欧 Gwyn. Daeth y gatrawd i ben ar 2 Ebrill 1800 pan eisteddodd 400 o filwyr Syr Watkin i wledd yn y Neuadd Fawr Plas Wynnstay. Cododd Syr Watkin d诺r coffa i'w filwyr, sef T诺r Nant y Belan ym Mharc Plas Wynnstay. Roedd enwau'r 45 o swyddogion a milwyr a laddwyd yn Iwerddon i'w gweld ar goflech yn y t诺r sydd bellach wedi'i chwalu - effaith fandaliaeth, y tywydd a thraul amser. Yn ogystal 芒 pharatoi gwledd a chodi cofgolofn ym Mharc Wynnstay, adeiladodd Syr Watkin adeilad yn y Rhos ar gyfer yr hen filwyr fu'n ymladd yn ei gatrawd; rhyw fath o gartre i hen filwyr fel sydd i'r 'Chelsea Pensioners'. Roedd yr adeilad y tu 么l i siop gig David Thomas, rhwng Stryt y Farchnad a Stryt y Doctor. Gan fod y darn tir o gwmpas hen dafarn y Plough ac adeilad hen dafarn Foresters Arms wedi ei glirio ychydig wythnosau'n 么l, gellir gweld y fan lle safai'r Barics o Stryt Y Farchnad yn ogystal ag o Stryt Y Doctor. Hyd yn gymharol ddiweddar, roedd y pentwr brics a cherrig a fu unwaith yn Barics i'w gweld yno. Dyma'r pentwr brics sydd y tu 么l i William ac Elizabeth Dodd yn y llun. Mae'n syndod yr hanes sydd y tu 么l i lun dau hen gwpl a phentwr o frics. Diolch i Glyn Evans, am ddod 芒 llun a hanes ei nain a'i daid inni.
|