Ar ddiwedd pob tymor fe fydd chwaraewyr y gwahanol adrannau yn ogystal a dewis chwaraewr y flwyddyn yn dewis yr un deg un chwaraewr gorau y maen nhw'n meddwl a fyddai'n ffurfio t卯m gorau eu hadran.
Eleni y mae chwaraewyr Adran 2 wedi anrhydeddu Mark Jones o d卯m Wrecsam trwy ei ddewis ar gyfer t卯m Adran 2. Mae hyn yn glod arbennig i Mark gan nad ydy t卯m Wrecsam eleni - oherwydd problemau arian卢nol yn bennaf - wedi mwynhau'r tymor mwyaf llwyddiannus yn ei hanes.
Aeth Mark sy'n fab i Allan Victor Jones ac Alison Winn, Stryt Las i Ysgol y Wern lle dechreuodd chwarae i dimau dan 9 a than 10 y Rhos o dan ofal John Glassby. Aeth yn ei flaen wedyn i Ysgol y Grango lle cafodd ei hyfforddi ymhellach gan Mr P. Phillips. Fe chwaraeodd i holl dimau'r ysgol yn ystod ei gyfnod yno ac yn ogystal fe chwaraeodd Mark i d卯m dan 12 y Rhos.
Cyn hynny, fodd bynnag, pan oedd o'n aelod o d卯m dan 10 y Rhos fe chwaraeon nhw yn y ffeinal ar y Cae Ras yn Wrecsam ac fe wnaeth Mark ddigon o argraff yn y g锚m honno i Glwb Wrecsam ei arwyddo. Pan oedd o'n ddigon hen fe aeth o ar gynllun ieuenctid y clwb a chwaraeodd i'r t卯m cyntaf yn erbyn Caerwysg pan oedd o'n ddim ond dwy ar bymtheg oed. Bellach, fel mae anrhydedd ddiweddaraf ei gyd-chwaraewyr yn profi, mae'n aelod blaenllaw o'r t卯m cyntaf.
Ar ben hyn mae wedi ennill tri chap dan 21 i Gymru ac roedd gan John Toshack hefyd ddigon o ffydd yn ei allu i'w gynnwys ar y fainc ar gyfer g锚m ddiwethaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Mae Mark yn gobeithio mynd cam ymhellach ddiwedd y mis hwn a chael chwarae rywfaint o'r g锚m pan fydd Cymru'n mynd ar daith i San Sebastian. Yn ogystal 芒 hyn mae o'n gobeithio cael ei ddewis unwaith eto i'r t卯m dan 21.
Mae Mark sy'n hapus yn byw adref yn y Rhos wedi arwyddo cytundeb newydd efo Wrecsam ar gyfer y tymor nesaf. Ond mae'n dweud mai ei obaith wedi iddo ennill mwy o brofiad ydy ymuno ag un o glybiau mawr y Brif Adran. Yn wir, ei freuddwyd fyddai chwarae i Man U.
A phwy 芒 诺yr efo'i allu cynhenid a'i hunan ymroddiad amlwg na ddaw hynny'n wir. Ac y gwelwn ni Fark arall o'r ardal, yma'n gwneud ei farc efo Manceinion yn ogystal 芒 Chymru.
Ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i Mark.
|