Mae'r plac yn coffau agoriad gwreiddiol y Stiwt ym 1926, ei gau ym 1977 a'i ailagor ym 1999. David Evans fu'n gyfrifol am gael y plac a gafodd ei gyllwyno i'r Stiwt gan Gor Meibion Orffiws y Rhos. Mae David Evans yn gyn-gadeirydd y grwp a fu, oddi ar 1985, yn gyfrifol am ymgyrch codi arian ar gyfer adfer yr hen ogoniant i'r Stiwt. Mae'r plac wedi'i lunio o lechen y Berwyn ac mae'n cofnodi pennod arall yn hanes yr adeilad unigryw hwn. Mae David Evans, un o aelodau gwreiddiol Cor Orffiws y Rhos, a'r Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eifion Wyn Jones, yn cofio fel y byddai Cor Orffiws y Rhos yn ymarfer yno pan gafodd y cor ei ffurfio ym 1957 ac mae' r cor yn un o nifer o gymdeithasau cerdd yr ardal sy'n dal i ymarfer yn y Stiwt a'u seiniau'n atseinio oddi ar waliau brics coch Rhiwabon yr adeilad a godwyd o. Meddai David Evans, "Does gen i ddim cof bod 'ne unrhyw blac ar waliau'r Stiwt ers talwm. Roedd yn fwriad o' r dechrau cyntaf cael seremoni swyddogol arbennig i ailagor y Stiwt ond rywsut neu'i gilydd ac er mawr syndod, ni ddigwyddodd hyn. Yn dilyn sgrws wrth fynd heibio tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd dim byd yn yr adeiladyn cofnodi holl ddigwyddiadau cyffrous ei hanes. Penderfynodd aelodau Cor Orffiws y Rhos yr hoffen nhw nodi eu cysylltiad maith a' r Stiwt trwy gyflwyno' r plac. Mae'r Cor yn hapus ac yn falch o gyfrannu fel hyn." Ac meddai Eifion Wyn Jones, " Ddim neuadd goffa ydi'r Stiwt ond adeilad byw, cyffrous sy' n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau, ac mi rydw i' n falch o weld fod cymaint o wahanol fathau o gerddoiaeth yn dal i yn rhan annatod o gyfansoddiad yr adeilad. Mae'n ffantastig i weld pob cenhedlaeth yn defnyddio'r adeilad yn rheolaidd. Mae' r cor yn hynod o falch o' r cysylltiad a fu rhyngddo a' r Stiwt dros y blynyddoedd." Parhaodd Cor yr Orffiws i noddi'r Stiwt pan gynhaliwyd cyngerdd yno nos Sadwrn Mai 14, gan rannu'r llwyfan efo Eleri Woolford y soprano ac enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Hefyd yn ymddangos ar Iwyfan y Stiwt, am y tro cyntaf erioed, roedd Cor Meibion y Traeth, Sir Fon dan arweiniad Annette Bryn Parri a oedd hefyd yn cyfeilio i Eleri Woolford. Marc Williams
|