Do mae eisteddfod arall wedi dod ac wedi mynd. Rwy'n ysgrifennu'r ychydig eiriau hyn ar y Dydd Llun wedi'r W欧l, ac erbyn hyn bydd yr holl oleuadau wedi mynd o'r pafiliwn, a'r cadeiriau wedi eu cludo i ffwrdd. Mae'r stondinau yn sefyll yn llwm a gwag. Mewn yehydig o wythnosau, bydd dim ar 么l i ddangos fod dim wedi digwydd.
Hwyrach na fydd olion ar y maes, ond mae'n sicr bydd eisteddfod mor ardderchog wedi gadael gwaddol sylweddol yn ardal Yr Wyddgrug. Rhaid llongyfarch pawb fu wrthi yn paratoi at ymweliad y genedl.
Prin deunaw mis gafwyd i drefnu'r cyfan. Gyda llai na phythefnos i fynd cael a chael oedd hi fyddai eisteddfod o gwbl. Wedi'r holl
law, roedd y maes yn f么r o fwd. Nid oedd modd gosod y pabelli. Roeddent o fewn trwch blewyn i ganslo'r cyfan.
Yn ffodus daeth yr haul allan a gyda dycnwch gweithwyr y maes, criw di-nod ond hollol hanfodol yn nhrefniadau unrhyw eisteddfod, trosglwyddwyd gwerth 拢60 mil o gerrig m芒n i baratoi llwybrau.
Erbyn yr wythnos roedd y maes mewn cyflwr arbennig. Yn wir, roedd yn eironig sefyll ar y maes ar y bore Sadwrn olaf a gweld lori yn dod heibio i daflu d诺r ar y llwybrau i gadw'r llwch i lawr.
Roeddwn yn teimlo'n drist o glywed rhywun ar y radio yn cwyno ei bod yn anodd gwthio pram neu gadair olwyn ar y llwybrau. Rwyf wedi cael digon o brofiad o wthio cadair dros dir anodd o bob math a gallaf ddeall fod anhawsterau. Ond beth mae'r bobl hyn yn ei ddisgwyl? Hyd yn oed pan nad yw'r dilyw wedi dod ganol haf, nid yw llwybrau g诺yl symudol yn berffaith.
Dylent ddiolch am yr ymdrechion wnaed ar eu rhan. Roedd yn braf gweld tri c么r o'r Rhos yn cystadlu yn ystod yr wythnos. Hwyrach nad ydym yn cytuno'n llwyr hefo pob beirniadaeth ond dyna yw eisteddfod.
Roedd Cantorion Maelor wedi ffurfio'n arbennig a chafwyd perfformiad caboledig ganddynt. Dyma gryfder eisteddfod symudol. Mae'n ysgogi perfformwyr lleol naill ai i gystadlu am y tro cyntaf, neu o bosib am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
O gofio mai Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau oedd yr enw swyddogol, diddorol oedd gweld llun Cor Meibion Fflint yn Y Daily Post ar Sadwn cynta'r 糯yl ar eu ffordd i gystadlu yn Llydaw.
Hyd y gwn i, dim ond un peth oedd ar goll eleni. Chlywais neb yn cwyno am y traffig. Yn sicr roedd dod i'r maes o gyfeiriad Wrecsam yn rhwydd. Do bu rhaid i mi aros rhyw ugain munud i hanner awr i adael y maes ar y pnawn Sadwrn, ond faniau yn croesi'r llif traffig ar eu ffordd i'r maes i wagio'r stondinnau, oedd yn gyfrifol am hynny. Felly llongyfarchiadau lu i gyfeillion Yr Wyddgrug am wythos wefreiddiol.
Yr her i ni nawr yn yr ardal hon yw dangos i bobl Sir Fflint ein bod cystal a nhw. Dim ond deunaw mis gafwyd i drefnu eisteddfod 2007.
Rhywbryd yn y dyfodol agos cynhelir cyfarfod cyhoeddus i drafod cynnal eisteddfod 2011 yn ardal Wrecsam. Siwr ddigon na fyddwn yn gwrthod yr her. Bydd gennym dair blynedd i gael pob dim yn barod ac rwy'n siwr gallwn ninnau gyflwyno g诺yl gofiadwy i'r genedl.