Roedd nifer fawr wedi ymgynnull y tu allan i Co-op y Rhos am unarddeg o'r gloch, fore Mawrth, 21 o Fedi, i groesawu chwech o'r naw a fu'n teithio ar gefn beics dros 200 0 filltiroedd o Caldicot yn Ne Cymru i Ewloe, ar Lannau Dyfrdwy, mewn tri diwrnod fel rhan o Ymgyrch Co-op Cymru a'r Gororau i godi arian at Gronfa Shelter. Yn y llun (rhes flaen) Ruth Brown, rheolwr Co-op y rhos, ac yn y rhes gefn, mae Llinos Davies, ei dirprwy. Cychwynnodd y daith Ddydd Llun, Medi 19 o Caldicot a gorffen yn nhref Ceintun (Kington); yna, ddydd Mawrth, Medi 20, o Geintun i Ellesmere, a dydd Mercher, Medi 21, o Ellesmere i Ewlo, gan alw yn siopau'r Co-op yn Y Waun, Rhos, Cross-lanes, Brychtyn, Bwcle cyn cyrraedd pen y daith yn Ewlo. Roedd pob Co-op wedi bod wrthi'n casglu arian i noddi'r daith ac roedd aelodau Co-op y Rhos wedi bod yn casglu yn y siop ac wedi trefnu stondinau y tu allan i'r siop i godi mwy o arian. Roedd dros 拢200 wedi'i gasglu i'w roi i drefnwyr y daith - Ailsda Logan (swyddog busnes y Co-op) a Luigi Ciaburri. Roedd Rheolwr y Rhanbarth, Thomas Jamieson, wedi ymuno 芒 Rheolwr Co-op y Rhos, Ruth Brown a'i Dirprwy, Llinos Davies, i groesawu'r seiclwyr. Roedd y daith drwy Gymru a'r Gororau yn rhan o daith fwy a oedd yn cael ei chynnal ledled gwledydd Prydain, gan ddechrau o Ynysoedd Shetland yn yr Alban a gorffen ar Ynysoedd Sili. Bydd arian Taith Miliwn o Blant Shelter yn cael ei wario ar symud plant allan o dai gwarthus a chynnig gwell cartrefi iddyn nhw. Mae Rheolwr a staff Co-op y Rhos yn dymuno diolch i bawb a gyfrannodd at yr achos da hwn.
|