Mae Keiron, wedi ennill sawl cwpan a tharian yn barod mewn Gwyliau Cerdd i Ysgolion yn Wrecsam a Chaer ond roedd ei lwyddiant yng Ng诺yl Gerdd Southport 2007 yn ysgubol.
Yng Ng诺yl Southport, sy'n cael ei chyfri'n un o brif wyliau canu gwledydd Prydain, enillodd Keiron y brifwobr fel Canwr Gorau'r 糯yl (roedd yn cystadlu yn erbyn oedolion a phobl ifanc llawer hyn nag o i ennill y wobr hon).
Ond ar ben hyn i gyd, bu'n cystadlu mewn pum cystadleuaeth gan ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr Uanwd Grefyddol (Yr Arglwydd yw fy Mugail); yn gyntaf yn yr Unawd dan 14 oed (River of Dreams Vivaldi), ac yn gyntaf yng nghystadleuaeth Canwr Gorau'r 糯yl ar nos Sadwrn olaf y cystadlu.
Daeth hefyd yn ail yn yr unawd dan 18 (I vow to thee, my country, yr alaw a godwyd o ran o symudiad Jupiter o The Planets. (Gustav Hoist) ar gyfer geiriau Syr Cecil Spring-Rice) ac yn ail ar yr Unawd dan 16 (The Beat of your Heart).
Yn ogystal a chanu mae Keiron hefyd yn cael gwersi piano a fiolin.
Ein llongyfarchiadau iddo a phob dymuniad da i'r dyfodol fel unawdydd hynod o addawol.
Ac os ydych yn credu fod canu'n llifo yn y gwaed o'r naill genhedlaeth i'r llall, wel, mae Keiron yn dod o deulu o unawdwyr go arbennig - ei hen daid oedd un o'r baswyr gorau a fu erioed yng nghorau meibion a chorau cymysg yr ardal.
|