Mae Nene yn diolch i Miss Betty Gough, Johnstown am anfon y stori anhygoel hon i'r papur. Anfonwyd yr hanes i Emlyn a Glenys Charles gan eu mab, Gareth, sy'n byw ac yn dysgu yn Ne Lloegr, ar 么l iddo ei weld yn y Lincolnshire Echo a'r Market Rasen Mail tua mis yn 么l.Wonderful Inventions gan John Timbs oedd enw'r llyfr a fenthyciodd rhyw ddisgybl neu'i gilydd o lyfrgell Ysgol de Aston, Market Rasen, Swydd Lincoln - a hynny pan oedd y Frenhines Victoria ar yr orsedd, Gladstone ar fin dod yn Brif Weinidog a Monet a Cezanne yn dechrau rhoi paent ar gynfas. Y flwyddyn oedd 1868.
Mae'n rhaid bod hwnnw a sawl un arall wedi cael blas ar y llyfr gan iddo fod allan o'r llyfrgell am 133 o flynyddoedd!
A ble cafwyd hyd i'r llyfr? Ar silff yn hen Gapel Seilo, Johnstown.
Crwydro'r wlad am 30 mlynedd
Rwan, ni chafodd Capel Seilo ei adeiladu tan 1893/4 felly bu'r llyfr yn crwydro'r wlad am ryw 30 o flynyddoedd o leia' cyn i rywun ddod 芒 fo i'r capel a'i adael yno.
Y llynedd, pan gaewyd Capel Seilo, cafodd Jeff Potter afael ar y llyfr. Mae Jeff Potter yn byw yn Haywards Heath, West Sussex ac yn delio mewn hen lyfrau.
Sylwodd yntau ar enw Ysgol de Vere wedi'i stampio ar y llyfr ac aeth at ei gyfrifiadur i weld a oedd yr ysgol yn dal ar agor heddiw ac ymhle.
Daeth o hyd i'r ysgol yn Market Rasen, Swydd Lincoln a sylwodd fod yr ysgol yn cynnig amnest a maddeuant am unrhyw lyfr o lyfrgell yr ysgol oedd wedi ei gadw dros yr amser.
Y ddirwy arferol fyddai 1c am bob diwrnod dros amser a doedd dim angen gormod o fathematics i ddyfalu y byddai dirwy o 拢485 ar y llyfr.
Llythyr hynod o ffraeth
Felly penderfynodd Jeff Potter sgrifennu llythyr hynod o ffraeth at brifathro'r ysgol yn cynnig anfon y llyfr yn 么l, gan gyfeirio at y ffaith na fyddai'n dasg amhosib dod o hyd i'r "Cymro bach" a gymerodd y llyfr o'r llyfrgell a'i adael yn Johnstown, gan mai dim ond 104 o ddisgyblion oedd yno ym 1868.
Awgrymodd yn gynnil y gellid dechrau ar y gwaith ditectif trwy chwilio am olion "bysedd Cymreig" ar dudalennau'r llyfr, gan ychwanegu mai act o edifeirwch ar ran y bachgen, mae'n debyg, a barodd iddo benderfynu gadael y llyfr mewn lle o addoliad.
Prifathro o Ogledd Cymru
Cafodd Jeff Potter ateb yn 么l gan ddirprwy brifathro presennol yr ysgol, Alun Jones, sydd er mawr syndod yn hanu o Ogledd Cymru ac yn 'nabod ardal Wrecsam yn dda.
Yn anffodus nid oedd cofrestri'r ysgol cyn 1870 ar gael felly ni ellid dweud a oedd rhywun o ardal Johnstown yn ddisgybl yno ai peidio. Fodd bynnag, diolchodd iddo am anfon y llyfr yn 么l a......na, ni fyddai'n mynnu ei fod yn talu'r ddirwy i'r llyfrgell!
Y bwriad yw, yn 么l pob s么n, gosod y llyfr i'w arddangos mewn lle go amlwg yn yr ysgol. Felly os ydych chi'n aros yn Market Rasen rywbryd, ewch i weld y tamaid o Johnstown sydd yn Ysgol de Vere yno - ond peidiwch 芒 chymryd arnoch eich bod yn nabod ardal Johnstown yn enwedig os buoch chi a'ch teulu'n aelodau yn hen Gapel Seilo!