Pan wnaeth Nene ymholiadau yngl欧n 芒'r agoriad swyddogol ar y Ponciau, ddydd Mawrth, Mehefin 9, fe ddywedodd wrthym mai seremoni ar gyfer pwysigion Caerdydd a swyddogion a chynghorwyr Cynghorau Wrecsam a'r Rhos fyddai hwnnw, ond, dydd Sadwrn, Mehefin 13, roedd cyfle i holl bobl yr ardal ymuno yn y dathlu ar y Poncie. Cyfeillion Parc y Ponciau oedd wedi trefnu'r rhaglen - stondinau, ceffylau bach a sglefren i'r plant, a gweithgareddau.
Cyfeillion y Parc oedd hefyd wedi comisiynu gwaith i fand (tua 5 munud o hyd) gan un o'n cerddorion lleol, J. Brian Hughes, ar gyfer agoriad swyddogol y bandstand ar ei newydd wedd. Cafwyd perfformiad teilwng dros ben o'r gwaith gan hen Fand y Rhos, sydd bellach yn ymddangos dan yr enw Band Wrecsam Glynd诺r. Yn addas iawn roedd Brian Hughes wedi dewis enw addas i'r gwaith comisiwn, sef 'Bandstand'.
Wedi i'r darn comisiwn gael ei berfformio am 12 o'r gloch i ddechrau gweithgareddau'r diwrnod dathlu, cafwyd rhaglen hanner awr ddifyr iawn gan y band.
Erbyn y pnawn, roedd llethrau'r Poncie yn ddu gan bobl a rhaid llongyfarch gwirfoddolwyr diwyd Cyfeillion Parc y Ponciau am drefnu diwrnod arbennig o lwyddiannus.
Ar y Sul, y bwriad oedd trefnu Cymanfa Ganu, ond cafwyd llawer o drafferthion cael arweinydd a chyfeiliant i'r canu. Ar y munud dwytha, cytunodd Owen Roberts, Acrefair, i ddod draw efo'i organ drydan i gyfeilio mewn gwasanaeth a arweiniwyd gan y ficer, Y Parchedig Stuart Evans. Roedd cynulleidfa o tua 80 wedi ymgynnull a chasglwyd 拢90 ar gyfer Hosbis T欧 Gobaith.
|