Pe baech awydd taith drwy fro'r Plu, ni wn am well man i gychwyn na'r Trallwm a hynny ar groesffordd yr A458 a'r A483 ynghanol y dref ac wrth ymyl Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol. Hon ydy tref farchnad bwysicaf Cymru a lleoliad yr arwerthiannau defaid mwyaf yn Ewrop, yn 么l rhai. Mae'r dref yn gyfoethog mewn adeiladau o bob cyfnod gyda rhai enghreifftiau o dai du a gwyn nodedig yn ogystal 芒 rhai Sioraidd a Fictoraidd.
Dylech rodio'r Stryd Fawr i weld y rhain yn eu gogoniant a throi i'r Stryd Newydd i fwrw golwg ar y Talwrn ceiliogod a fu mewn defnydd tan 1849. Mae eglwys y Santes Fair ar lecyn amlwg ar Stryd yr Eglwys ac yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Un o gyn ficeriaid yr eglwys hon oedd William Morgan cyn iddo ddod yn amlwg fei cyfieithydd y Beibl ac Esgob Llanelwy.
Bydd amser i gerdded Stryd Hafren heibio i 'Pethe Powys' a thros y gamlas a agorwyd yn 1796 ac i lawr i gyfeiriad Cerrig yr Orsedd a Neuadd y Sir. Dylech sylwi ar adeiladwaith trawiadol yr Hen Orsaf a hefyd nodi chwaeth y pensaer a fu'n gyfrifol am yr Elusendai a godwyd mor ddiweddar 芒 1938.
Mae gorsaf dr锚n arall yn y Trallwm ond mae'n rhaid teithio i Sgw芒r y Gigfran i weld gorsaf Lein Fach Llanfair a'r Trallwm. Agorwyd a defnyddiwyd y lein gyntaf yn 1903 ond ar yr adeg hynny byddai'r lein yn cysylltu 芒'r brif orsaf yng ngwaelod y dref.Bydd mwg y tr锚n i w weld o dro i dro wrth i chi ddringo Allt y Golfa i gyfeiriad Llanfair Caereinion ar yr A458.
Mewn dim o dro fe gewch gipolwg o bell ar Gastell Caereinion ac er mwyn manteisio ar olygfeydd yr ardal dylech droi i'r chwith cyn cyrraedd Cyfronydd ac anelu trwyn y car heibio i Dolarddun, lle bu Harri Tudur a'i filwyr yn gwersylla ar eu ffordd i Bosworth. Ymlaen wedyn i gyfeiriad Cwm Golau a'i gapel bach. Gerllaw Rhos Fawr mae golygfa gwirioneddol wych o'r bryniau a'r gweundiroedd sydd mor nodweddiadol o Faldwyn. Ar ddiwrnod clir gellir gweld y Berwyn a mynyddoedd glasliw sir Feirionnydd.
Mewn dim o dro byddwch yn Llanfair Caereinion, un o drefi bach prysuraf y sir. Bydd yn rhaid ymweld 芒 Ffynnon Fair a chloc haul Samuel Roberts, y ddau ym mynwent yr eglwys. Bydd rhaid bod yn reit ddistaw yma rhag ofn bod rhagbrawf un o'r cystadlaethau Cerdd ymlaen yma neu yn y ddau gapel. Gallwch ddarllen hanes Gwion Bach a ddaeth, wedi llawer o helyntion, i'w gyrion y pentref a gellir treulio amser difyr yno yn gwylio'r injan st锚m yn paratoi ar gyfer ei thaith i lawr i'r Trallwm.
Byddwch erbyn hyn wedi croesi pont hynod Llanfair dros yr afon Banwy ac anelu trwyn y car i gyfeiriad Llanerfyl. Yn yr eglwys yno mae maen hynafol y Santes Erfyl ynghyd 芒'r greirfa hynod a gedwir yno. Bydd y coed Yw yn eich atgoffa o hynafiaeth y llecyn hyfryd hwn. Er bod y ffordd i Gwm Nant yr Eira yn denu, gwell y tro hwn fyddai gadael pentref genedigol Gwyn Erfyl a chartref presennol y cyn-archdderwydd Emrys Roberts a throi am Langadfan. Wrth groesi'r bont fe welir Llysun ac olion yr hen fwnt a beili sy'n ein hatgoffa o hynafiaeth yr ardal.
Safle diddorol arall ydy'r Cann Office, Seisnig ei enw ond cyfeirio mae enw C y m r a e g gwreiddiol y lle meddir, sef Cae'n y Ffos, at safle llawer iawn hynach. Dyma ardal yr enwog William Jones Dolhywel 1726 - 1795, yr hynafiaethydd, y bardd a chroniclwr dawnsfeydd Llangadfan. Pe cawsai ef ei ffordd byddai llawer o'r ardalwyr wedi mudo i Kentucky a sefydlu gwladfa Gymreig yno. Dyma'r ardal hefyd roddodd yr enw Cadvan i John Cadvan Davies, y gweinidog Wesleaidd a ddaeth yn Archdderwydd Cymru yn 1923 am gyfnod byr.
Tua'r Foel mae'r ffordd fawr yn arwain. Dyma'r fan a fu'n gartref i John Penry Jones, un o feirdd gwlad enwocaf y fro Mae cerdd ganddo i Evan Jones, Telynor y Waen Oer (1784 - 1872), y telynor a'r datgeinydd cerdd dant crwydrol, yn cael ei chanu yn yr Eisteddfod eleni. Mae bedd y telynor ym mynwent eglwys Garthbeibio a welir ar y dde wrth i chi adael y pentref i gyfeiriad Mallwyd.