Daeth cysgod tywyll dros yr ardal yn ddiweddar pan fu farw Mr Maurice Evans, Tynrhos Uchaf, Dolanog, neu Maurice Tynrhos fel yr adwaenid ef gan bawb.
Deuthum i gysylltiad ag ef gyntaf tua phum mlynedd yn 么l pan oeddwn yn hel enwau caeau ar gyfer y golofn hon. Dywedodd Mrs Eluned Morgan, Pencomins y cawn lawer o wybodaeth gan Maurice, ac felly y bu. Cefais groeso cynnes yn Nhynrhos a chyfeiriodd Maurice lawer at yr hen ffordd o fyw yn ystod y sgwrs a chyn imi fynd oddi yno dangosodd lawer o bethau sydd wedi diflannu o'r rhan fwyaf o ffermydd bellach. Penderfynais innau wedyn y byddwn i'n casglu hen offer a dyma ddechrau perthynas agos 芒 Maurice. Rhannodd ei wybodaeth enfawr gyda mi ac mae fy nyled yn fawr iddo. Fe ddeil yr atgofion amdano tra byddaf byw.
Cafodd ei eni ar fferm Pont Neuadd, Llanfair. Roedd hwn yn gyfnod anodd a phrisiau popeth yn isel yn nhri degau'r ganrif ddiwethaf. Cofia Maurice weld ei dad a'r gwas yn cerdded gwartheg ar hyd ffordd Melinddol i ffair Llanfair a gynhaliwyd ar ddydd Gwener. Ni fu iechyd ei dad yn gryf a bu farw'n sydyn yn 1931 ynghanol y dirwasgiad pan oedd arian yn brin iawn. Bu'n rhaid i'r teulu werthu'r cyfan oedd ganddynt am ychydig o arian gan fynd yn fethdalwyr dros nos, cyn symud i Rallt Ucha, tua dwy filltir i ffwrdd. Cafwyd amser caled wedyn dros y ddegawd nesaf, a chrafwyd bywoliaeth allan o fagu ieir a gwerthu wyau. Daeth y bwyd ieir o Felin Grug gyda cheffyl a throl, a gweithiodd y teulu'n galed i gael dau ben llinyn ynghyd.
Gadawodd Maurice yr ysgol ac aeth i weithio i fferm Maesglydfa ac yno magwyd y diddordeb mewn ceffylau gwedd a fu gydag ef hyd ei oes. Yma dysgodd droi gyda'r wedd a chafodd gyfle i brofi gorchwylion fferm eraill megis trin y tir a phlygu sietin neu wrych; crefft y daeth yn feistr arni gyda phrofiad.
Bu'n gweithio am gyfnod ym Mrynglas a phan symudodd ei frawd Bebb o Tynrhos Ucha, aeth Maurice adre i helpu ei fam, cyn iddi hithau farw o'r cancr yn fuan wedyn. Ymhen ychydig daeth Joan Lewis o Gefn Coch yn forwyn i Tynrhos Ucha, a daeth hithau yn wraig i Maurice maes o law. Buont yn briod dros drigain mlynedd cyn ei marwolaeth y llynedd, a chofiwn amdani fel person annwyl a charedig.
Un nodwedd arbennig o Maurice oedd ei gymwynasgarwch sy'n sicr yn adlewyrchiad o'r cyfnod pan oedd cydweithio a chynorthwyo ei gilydd yn un o nodweddion pennaf cymdeithas cefn gwlad.
Soniwyd eisoes am gariad Maurice tuag at geffylau yn enwedig ceffylau gwedd ac roedd yn arbenigwr ar y pwnc. Un peth a darai person wrth sgwrsio gydag ef oedd ei addfwynder a'i ffordd o gyflwyno gwybodaeth heb ymddangos yn hunan-ymffrostgar. Daeth termau megis strodur, cefndres, mwnci a tinbrenni'n naturiol o'i enau, ac roedd yno i egluro bob amser.
Ni chredai Maurice y byddai'n cael tractor erioed, ac ef oedd un o'r ffermwyr olaf yn yr ardal i ffarwelio 芒'r ceffylau gwedd. Prynodd Standard Fordson ail law ym 1952 gan rywun yn ardal Aberhosan ger Machynlleth, cyn ei yrru'r holl ffordd i Dynrhos Ucha. Fe gymerodd dipyn o amser i gyfarwyddo 芒'r tractor gan fod arno ei ofn i ddechrau.
Amaethu yn oes y ceffyl
Diddorol oedd ei glywed yn trafod amaethu yn oes y ceffyl. Siaradai gyda hwy a daeth perthynas arbennig rhyngddynt dros y blynyddoedd. Braf oedd clywed y chwiban arbennig a ddefnyddiai pan oedd angen dal ceffyl yn y cae ar gyfer diwrnod o waith. Roedd Maurice yn hoff iawn o aredig gan ddefnyddio deuben o geffylau ac arad Ransome Bantam. Anelid at aredig erw o dir mewn diwrnod, gan gerdded dros ddeng milltir i fyny ac i lawr y cwysi.
Cofia Maurice ddefnyddio'r bladur i gynaeafu'r gwair a'r 欧d, cyn dyfodiad yr injan fach. Datblygiad mawr oedd y beindar a rwymai'r ysgubau ond roedd gofyn cael triphen o geffylau i'w dynnu. Codi'r sgube' yn bedwar neu chwech wedyn cyn eu pitsio ar y drol gyda phicwarch a'u cludo i'r gadlas cyn codi teisi. Roedd Maurice yn hoff o doi'r teisi gyda brwyn a glymid i lawr gyda phegiau a chortyn toi.
Roedd diwrnod dyrnu'n bwysig iawn gyda chymdogion yn dod i gynorthwyo. Byddai cymdeithasu o gwmpas y bwrdd yn bwysig amser prydau bwyd gan dynnu coes a phlagio. Talwyd y gymwynas yn 么l drwy fynd i gynorthwyo gyda'r dyrnu ar ffermydd eraill ac roedd gorchwylion megis godro a bwydo anifeiliaid yn dal i ddisgwyl ar 么l dyfod adre. Un o hoff orchwylion Maurice oedd plygu sietin neu wrych, neu gau fel y dywed ef. Mae gwrychoedd Tynrhos yn werth eu gweld, wedi'u plygu ganddo yn ofalus dros gyfnod o drigain mlynedd neu fwy a bu'n eu brwsio gyda chryman hyd at yn ddiweddar iawn. Rhaid oedd cael min da ar gryman a wyallt cyn dechrau, a gwneid hynny ar y maen llifo. Bellach daeth y llif gadwyn a bu'n gymorth mawr gyda'r gwaith hwn.
Bu Maurice yn arwain cyrsiau ATB yn yr ardal gan geisio pasio'r hen sgiliau ymlaen i'r to ifanc. Credai nad oedd cyrsiau o'r fath yn ddigon hir - fel y dywed yn yr hen amser, roedd digon o amser i wylio'r hen grefftwyr a'r sgiliau'n datblygu'n raddol dros gyfnod o flynyddoedd gan ddysgu drwy brofiad. Credai fod rhywbeth arbennig wedi'i golli pan aeth y ceffyl ac nid oedd yn hoff o'r holl frysio fel y gwelir heddiw Gwaith caled arall y bu Maurice yn gwneud llawer ohono oedd dreinio tir, a hynny gyda chaib, rhaw ac offer dreinio arbennig. Gosododd filoedd o bibelli clai yn y ffosydd cyn eu cau eilwaith 芒 llaw. Dyma egluro pam fod cystal golwg ar dir porfa Tynrhos.
Bu Maurice yn godro gwartheg am gyfnod hir, gyda llaw i ddechrau cyn datblygu rhai o'r adeiladau allanol a godro gyda bwcedi ac unedau oedd yn sugno'r llaeth o byrsiau'r gwartheg.
Cadw moch
Roedd moch yn rhan o'r system ffermio yn Nhynrhos hefyd am flynyddoedd. Cedwid hychod magu a mawr oedd yr helynt pan ddeuai' n amser mynd 芒 hwch at y baedd. Cerdded oedd y drefn, gyda darn o gortyn wedi'i glymu wrth goes 么l yr hwch, a hithau'n gwthio drwy bob twll yn y gwrychoedd ar ei thaith at y baedd. Lladdwyd mochyn yn rheolaidd hefyd a deuai'r 'Clochydd Bach' yno o Bontrobert i wneud y gwaith hwn. Nid oedd dim yn cael ei wastraffu - cedwid y saim oedd o gwmpas perfedd y mochyn ar gyfer iro echel y troliau tra roedd blas arbennig ar y ffagots. Rhannwyd cryn dipyn o gig ffres rhwng cymdogion, a byddent hwythau felly'n derbyn cig ffres yn achlysurol drwy'r gaeaf. Halltwyd yr hamiau cyn eu crogi ar fachau o'r trawstiau.
Maurice y crefftwr coed
Soniwyd eisoes am Maurice yr amaethwr diwyd a gofalus, ond roedd ochr arall i'r cymeriad lliwgar hwn, sef Maurice y crefftwr coed. Bu'n gwneud gatiau a hyrdlenni derw ers blynyddoedd a gwelir hwy o amgylch y fferm yn ogystal ag yn Sain Ffagan. Ymddiddorai mewn gwneud dodrefn derw ar 么l iddo ymddeol, a bellach mae enghreifftiau o'i waith i'w weld mewn llawer cartref yn y fro, boed yn gadair, cwpwrdd, st么l, bwrdd neu gwpwrdd cornet. Credai'n gryf mewn defnyddio'r hen dechnegau gyda llaw pan oedd hynny'n bosib, er fod llif drydan a dril trydan yn gymorth iddo gyda darnau mawr o goed. Gwelir y marc ME ar bob darn o'i waith a chymerodd falchder mawr yn sicrhau fod y gwaith gorffenedig yn gymen a chrefftus.
Uchel ei barch
Un o'i rinweddau pennaf oedd bod yn gyfaill a chymwynaswr. Roedd yn uchel iawn ei barch o fewn ei gymdeithas ac yn barod ei gymwynas bob amser. Nid person cyhoeddus mohono ac ni thynnai sylw ato'i hun. Serch hynny roedd rhyw fwynder ac agosatrwydd yn rhan naturiol o'i gymeriad ac nid oedd ganddo air drwg am neb. Bu'n ffyddlon i'w Gapel lleol sef Sardis, Dolanog, ble bu'n gyn-drysorydd. Pan fyddai arwerthiant neu noson goffi yn Nolanog byddai Maurice wrthi'n ddiwyd yn paratoi dodrefnyn neu ddau i'w gwerthu neu rafflo a'r rheini yn raenus bob amser. Heb amheuaeth roedd Maurice yn gymeriad unigryw ac roedd yn enghraifft brin o'r hen ffordd Gymreig o fyw.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu a fu mor ofalus ohono hyd y diwedd. Braint ac anrhydedd oedd cael adnabod Maurice Tynrhos - talp o Fwynder Maldwyn ar ei orau. Gorffwysed mewn hedd.
Alwyn Hughes,
Colofn Cynefin, Plu'r Gweunydd