Mae nhw'n dweud wrtha i "Gwell Cymro, Cymro oddi Cartref". Mi alla i ddweud, â llaw ar fy nghalon, fod hyn yn sicr yn wir. Bu treulio cyfnod oddi cartref yn yr Amerig dros y pedwar mis diwethaf yn dyst i hynny, a pe bawn i'n cael y cyfle i ddychwelyd i Brifysgol Rio Grande yn y dyfodol, byddai'n bleser o'r mwyaf i mi gael gwneud hynny!
Serch hynny, wrth edrych yn ôl dros fy nghyfnod yn yr Amerig, doedd dim atal y nerfau pan yr oeddwn i'n troedio'r awyren honno ym maes awyr Bryste ar fore rhewllyd ym mis Ionawr. Bu ffarwelio â'r teuluoedd y noson flaenorol yn brofiad emosiynol a dweud y lleiaf, a buon ni'n ffodus tu hwnt fod Hefina Talwrn o gwmpas efo paced o tissues i atal y dagrau!
Rhaid oedd dilyn y 'Môr Coch' trwy'r maes awyr yn llythrennol, gan fod yr unarddeg ohonom ni'n gwisgo'r hwdis coch a brynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a llusgo ein cesys trymion, a ddaliai'r holl nwyddau a'r dillad y byddem ni eu hangen yn ystod ein taith.
Wedi taith hir, o oddeutu 9 awr mewn awyren, yna 2 awr bellach ar fws, cyrhaeddom y Brifysgol ym mherfeddion y nos, gyda Jeanne a Mark, ein gwarcheidwaid yno i'n tywys at ein hystafelloedd. Yn ffodus i ni, roedd y merched i gyd wedi'u lleoli ar yr un llawr, ac roeddwn i'n rhannu fy ystafell â Elin, felly doedd dim dianc rhag y cysylltiad â'r hen Ddyffryn Banw!
Unwaith y trawodd fy mhen ar y gobennydd, syrthiais i gysgu'n syth, yn barod am y pedwar mis o'm blaen.
Daethom i ddeall yn eithaf cyflym y cysylltiad cryf oedd gan yr ardal â Chymru. Roedd y rhan helaeth o'r ymfudwyr Cymreig cyntaf wedi ymgartrefu yn y rhanbarth yn ystod degawdau cynnar y 19eg ganrif, ac roedd llawer o'u disgynyddion yn dal i fyw yn yr ardal hyd heddiw, gan gynnwys un tyddynwr o'r enw Dan Evans, a oedd bob tro'n dod draw atom i ddweud helo amser cinio yn y ffreutur. Yn wir, roedd Jeanne, ein gwarchodwraig, yn falch iawn o ddatgan ei bod hithau yn un o'r 'Jonesiaid'!
Treuliwyd sawl awr yn Nghanolfan Madog; canolfan Gymreig ym mhentref Rio Grande, ble yr oedd Jeanne'n gweithio, a geisiai sirchau fod traddodiadau Cymreig yn cael eu cynnal a'u cadw yn yr ardal, er budd y cenedlaethau i ddod. Bu'n agoriad llygad gweld cymaint yr oedd y trigolion lleol yn gwerthfawrogi eu gwreiddiau Cymreig, a pha mor benderfynol yr oeddynt o gadw'r hen draddodiadau yn fyw.
Cyfarfum â un dyn ar dip i Columbus un tro a oedd wedi treulio 17 mlynedd yn dysgu'r iaith Gymraeg, a hynny heb deithio i Gymru unwaith, a heb neb arall i ymarfer ag ef. Yn wir, fe wrthododd yn lân â siarad Saesneg â ni gan ei fod, yn ei eiriau ei hun, eisiau cymryd mantais o'r cyfle i ymarfer ei Gymraeg".
Piti nan fuasai rhai ohonom ni'r Cymry yr un mor barod i ddangos y fath frwdfrydedd tuag at ein hiaith...
Ta waeth, roedd gwaith i'w wneud tra yn yr Amerig, yn bennaf oll ymarfer cyn ein taith i Efrog Newydd. Yn ffodus iawn i ni, fel rhan o'r cwrs, fe dderbyniom y cyfle i berfformio drama yn theatr y Producers Club yn Broadway.
Roedd y syniad y byddem ni'n perfformio yn un o ranbarthau theatrig mwya'r byd yn sicr yn gyrru iasau i lawr asgwrn fy nghefn, ac yn binacl ar y cyfan, cawsom y cyfle i gyfarfod â'n cyd-fyfyrwyr o Gymru tra yno, a hynny mewn dinas dan flanced o eira! Treuliom fis yn ymarfer yn galed dan oruchwyliaeth yr athro Greg Miller - dyn cymharol fyr, bochgoch; Sion Corn y byd dramatig fel petai, ond a oedd yn amlwg yn hynod ddeallus ac yn ddigon bodlon ein cynghori a rhannu ei brofiadau o fod yn actor proffesiynol.
Dysgom llawer dan ei adain ef, a llwyddom i aeddfedu fel unigolion yn ogystal â fel actorion, a bu gweithio ag ef o fudd maw'r in cynhyrchiad, gan ei fod ef yn un o gyfeillion pennaf yr actor a'r cyfarwyddwr Brooks Jones, sef gwrthrych ein drama, ac awdur y llyfr a seiliom ein cynhyrchiad arni. Roedd Brooks yn frodor o dref Jackson, oddeutu hanner awr i ffwrdd o Brifysgol Rio Grande, ac roedd wedi chwarae rhan allweddol ym myd y theatr, yn benodol wrth hybu drama ymhlith yr ifanc a'r anabl.
Fe ddewisiodd i droi ei gefn ar enwogrwydd ac ar fudd ariannol y proffesiwn, gan, yn hytrach, ganolbwyntio ar wir hanfod ei grefft, sef, yr actio ar ddrama, rhywbeth y dylai'r genhedlaeth "X Factor" gymryd i fewn i ystyriaeth! Treuliodd flynyddoedd maith yn teithio'r byd, ac, yn wir, roedd yn dipyn o "ladies man" yn ei ddydd!
Dywedodd Greg ei bod hi'n bosib y bu Brooks mewn perthynas â channoedd o fenywod trwy gydol i fywyd - ond hyd ei farwolaeth, bu iddo gadw mewn cysylltiad â phob un ohonynt, gan eu cyfarfod yn aml, a threulio oriau ar y ffôn yn sgwrsio â hwy. Un o'r cariadon hynny oedd yr actores June Gable (a chwaraeai ran Estelle, asiant Joey yn y gyfres 'FRIENDS').
Bu June yn ran allweddol o fywyd Brooks yn ystod y ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, ac fe gysegrodd ei hamser i ofalu amdano yn ystod ei gyfnod o waeledd. Bûm ni'n ddigon ffodus i gael cyfarfod â June yn ystod ein cyfnod yn Rio Grande, gan fanteisio ar y cyfle i gael gweithdy drama â hi, yn ogystal â theithio'r ardal i ymweld â rhai lleoliadau a oedd yn ran allweddol o fywyd Brooks, gan gynnwys ei gartref yn nhrefn Nackson - profiad ysbrydol i June, a phrofiad a oedd yn amhrisiadwy i ni'r actorion ifanc wrth geisio dod â'i straeon yn fyw i'r gynulleidfa.
Cawsom ymateb wresog gan ein cynulleidfaoedd yn Efrog newydd, ac o gwmpas yr ardal yn Rio Grande, a bu sawl aelod o deulu Brooks a'i gyfeillion yn bresennol yn rhai o'r perfformiadau hyn - y rhan fwyaf ohonynt yn sychu'r dagrau ymaith, ac yn wên o glust i glust wrth ein cyfarch. Profiad bythgofiadwy, ac anrhydedd o'r mwyaf i ddarpar berfformwyr fel ninnau.
Serch hynny, celwydd noeth fyddai dweud mai gweithio yn unig a wnaethom yn yr Amerig! Yn ystod ein cyfnod o astudiaeth, cawsom sawl cyfle i deithio o amgylch talaith Ohio, ac i rai o leoliadau enwocaf y wlad.
Teithiom i brifddinas y dalaith, Columbus, sawl gwaith er mwyn gwylio cynyrchiadau megis y sioe gerdd boblogaidd 'Spring Awakening', er mwyn gwneud ychydig o fân siopa, ac i berfformio ar gyfer cymdeithasau Cymreig megis ESCO (the Welsh Society of Central Ohio). Wedi ein perfformiadau yn Efrog Newydd, fe'n gwahoddwyd hefyd i ganu yn lawnsiad Gwyl Bywyd Gwerin y Smithsonian yn Washington - gwyl a fyddai'n cyfarch criw arall o frodorion ein dyffryn oddeutu 3 mis yn ddiweddarach! Bu'n brofiad hynod sefyll yng nghyntedd y Llysgenhadaeth Brydeinig, a gweld ton o bobl yn dyfod atom i gyd-ganu'r Anthem Genedlaethol, a daeth ambell ddeigryn i'n llygaid wrth glywed Gwyneth Glyn yn canu'r gân "Adra", a ninnau'n treulio dydd G@yl Dewi ymhell oddi cartref! Serch hynny, bachwyd y cyfle i ymweld ag ambell i amgueddfa a sawl atyniad tra yn y Brifddinas, gan gynnwys Cofgolofn Lincoln, Cofeb Rhyfel Vietnam, yn ogystal â chael ein llun wedi'i dynnu tu allan i'r T~ Gwyn! Os craffwch yn ofalus ar y llun, fe welwch ambell i warchodwr diogelwch yn lleu ar do yr adeilad...tybed a oedd yr Arlywydd o gwmpas ar y pryd? Yna, bûm yn ffodus tu hwnt o dreulio ein wytnos o 'Spring Break' (sydd gyfystyr â gwyliau'r Pasg ym Mhrydain) ger traethau Daytona yn Florida, gan fwynhau oriau dirifedi yn torheulo ar y traeth, nofio yn y môr, ac ymlacio wedi'r holl waith caled. Treuliom lawer o amser hefyd yn ymddwyn fel 'Llysgenhadon' ar gyfer ein gwlad, gan ymweld â chynifer o ysgolion yr ardal yn eu haddysgu am draddodiadau Cymreig, a dysgu ambell i air a chân Gymreig iddynt.
Mae deufis bellach wedi mynd heibio ers i ni ddychwelyd o'r Amerig, ac mae'n ddigon gwir i ddweud fy mod i, a sawl un o'm cydfyfyrwyr yn dal i weld colled ar ôl yr ardal a'r bobl a gyfarfum yn Rio Grande. Roedd y gymdeithas yno yn un fach a chlos, a phawb yn ddigon parod i helpu ac i sicrhau ein bod ni'n teimlo'n gyfforddus mor bell oddi cartref. Rydym ni oll yn ddyledus tu hwnt i Jeanne a Mark am ofalu amdanom fel mam a thad maeth yn ystod ein cyfnod yno, yn ogystal ag i'r holl ffrindiau a wnaethom yn y Coleg, a oedd wastad yn barod i'n cymryd draw i'r sip i nôl ychydig fanion, ac wrth gwrs i Jimmanetti's (Cann Offis y pentref) ar gyfer nosweithiau carioci.
Bydd gen i atgofion melys tu hwnt o'm cyfnod yn Rio Grane, a fedra i ddim canmol gormod ar y syniad o dreulio cyfnod o astudiaeth, neu hyd yn oed o waith, mewn gwlad dramor. Felly, os oes gennych chi dân yn eich bol i dreulio amser mewn gwlad dramor, ewch amdani! Wnewch chi fyth ddifaru am eiliad!"