Teimlaf mor lwcus o gael adnabod y ddau a chael fy niddaru yna yn y t欧 a'r siediau bach di-ri am oriau. Roedd ysbrydoliaeth yn y sgwrs yn ogystal 芒'r golygfeydd o bob twll a chornel o'r delweddau, gyda pethau fel y pare a phare o fenyg plygu yn hongian a'r to sinc ar 么l oes o waith yn diogelu dwylo'r crefftwr sydd wedi plygu ambell sietin - wel milltiroedd i fod yn gywir. Y peth mwyaf i mi oedd ei gariad at rannu y profiadau fel crefftwr gyda ni ac yn wir un pnawn gwelwyd dau b芒r o ddwylo yn cwrdd i wneud gi芒t bren a holltwyd gyda'r wyallt, - un p芒r o ddwylo gyda 么l blynyddoedd o brofiad a'r llall yn ddwylo ifanc brwdfrydig...a llawenydd yw gweld y traddodiad yn parhau o gatie crefftwr gwlad Sir Drefaldwyn. Mae un o gatie Maurice wedi mynd i lawr i Sain Ffagan yr haf yma, ond mae posib gweld un yn ei chynefin wrth ymyl Capel Sardis sydd hefyd werth ymweliad, ac fel llawer o'n capeli yn cael pob gofal yn ddiffuant bob dydd Sadwrn gan bobl fel Olwen Berth a Gwyneth Groe.
|