Roedd hi'n boeth iawn brynhawn Sadwrn, Mehefin 18fed, diwrnod Taith Gerdded Plu'r Gweunydd. Dechreuodd dros ddeg ar hugain ohonom o bentref Meifod yn llawn brwdfrydedd ar lwybr diarth iawn i bob un ohonom. Dringo...dringo...dringo a'r haul yn danbaid. Gweld Dyffryn Meifod a'r Afon Efyrnwy fel neidr oddi tanom. Roeddem i gyd yn ddiolchgar iawn o'r pitstop' lle roedd Trefor Owen a Huw wedi gofalu bod digon o dd诺r i ail lenwi'r tanc. Ymlaen wedyn a dringo unwaith eto, cyd-gerdded 芒 Buddug Owen a rhyfeddu ei bod yn gallu sgwrsio mor hamddenol a finnau ar y llaw arall ar fy ngliniau, prin yn gallu anadlu - mae gen i edmygedd llwyr i'w ffitrwydd. Dal i ddringo a'n hwynebau fel tomatos erbyn hyn ac fel dywedodd Elen Hafod "mad dogs and English men (wel Welsh, beth bynnag) go out in the mid day sun". OND...pan gyrhaeddwyd copa Gallt y Maen, anghofiwyd am y blinder a'r gwres gan fod y golygfeydd o'r copa mor fendigedig - gwastatir Sir Amwythig, Pumlumon, yr Aran a'r Berwyn i'w gweld o'n hamgylch ac awel gynnes ar ein hwynebau. Lawr ar ein pennau wedyn yn 么l i bentref Meifod lle roedd lluniaeth ysgafn derbyniol iawn wedi ei baratoi ar ein cyfer gan ferched yr ardal. Rwan mae'r coesau wedi dod dros y sioc, mae'r demtasiwn i ail gerdded y llwybr yn apelio (ond nid ar ddiwrnod poeth!) Diolch yn fawr iawn i bawb a fu wrthi'n arbennig i Huw am drefnu'r daith. Felly os nad ydych wedi digwydd noddi unrhyw un - nid yw'n rhy hwyr - anfonwch gyfraniad at Huw Lewis yn y Swyddfa Bost yn Meifod - dylai rhyw 拢1 am bob peint o chwys a gollais i y prynhawn hwnnw fod yn dderbyniol! Erthygl gan Catrin Hughes
|