Roedd y ganolfan dan ei sang i'r sesiwn arbennig roedd Nia Rhosier wedi'i threfnu i helpu dysgwyr o bob safon efo eu hynganu. Daeth pobl o Flaenau Ffestiniog ac Amwythig i gymryd rhan yn y sesiwn gyda dysgwyr lleol ardal y Plu. Mae'n amlwg bod gwir angen cyrsiau fel hyn ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Nia am ei drefnu. Rhaid hefyd diolch i Fran am baratoi cinio bendigedig i bawb ac wedyn te'r prynhawn gyda'i sgons enwog a jam cartref. Cofiwch bydd Diwrnod Scrablo yno ar 28 Gorffennaf. Dyma adroddiadau Hilary Woolner a Heather a Nick Rees:
"Dwedwch 'l' wedyn 'll'. Lle mae'ch tafod chi?" Roedd Nia Rhosier yn arweinydd ardderchog trwy'r wyddor Gymraeg a chymhlethdodau ynganu. Roedd mwy o ddysgwyr nag erioed yn sesiwn dydd Sadwrn 21 Ebrill yn Hen Gapel John Hughes, Pontrobert, sef 26 ohonon ni gyda chroestoriad o allu. Yn y bore, edrychon ni ar sut i gynhyrchu'r llais wrth ymarfer dweud llythrennau a seiniau unigol.
Ar 么l cinio gwych Fran o dan yr haul yn yr ardd, fe wnaeth yr ail sesiwn ymdrin 芒 deuseiniaid a dyna ddechrau ar y drafferth. Ond roedd Nia yn help mawr ac yn amyneddgar lawn wrth i ni lurgunio ei hiaith. Am sawl wythnos i ddod, bydd dysgwyr o Flaenau Ffestiniog i'r Amwythig yn sefyll o flaen eu drychau er mwyn gwneud ymdrech i wella eu hynganu nhw. Hillary Woolner
Dan ni'n gobeithio bod ein hynganiad yn well ar 么l y Cwrs Ynganiad yn Hen Gapel Pontrobert efo Nia Rhosier. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig - y tywydd, y dysgu, y bwyd a'r myfyrwyr. Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu ei gilydd. Roedden ni'n dysgu dweud 'll' a 'eu' yn gywir! Cewch chi ofyn i ni ddweud 'Llanfyllin' neu 'amheus' os dach chi'n cyfarfod ni yn y stryd! Heather a Nick Rees
Lois Martin-Short
|