Yn sicr mae pawb wedi teimlo eithaf ergyd wedi clywed fod Cyngor Powys yn trafod dyfodol ysgolion uwchradd y sir ac yn argymell ystyried cau hyd at chwech ohonynt.
Fel un sydd wedi bod drwy'r broses o gau ysgol mae gennyf bob cydymdeimlad â phawb sy ynghlwm â'r ysgolion sy wedi'u henwi.
Unwaith mae hyn yn digwydd mae ansefydlogrwydd a drwgdybiaeth yn dod i mewn. Mae gennym ffeithiau arswydus i'w hwynebu - y gostyngiad o dros bedwar cant ar ddeg o ddisgyblion yn ein hysgolion uwchradd.
Gofynnir am fwy a mwy o gyrsiau. Mae'r cwricwlwm yn newid. Mae'r pwyslais yn awr ar addysg 3 i 7, 8 i 14 a 14 i 18.
Mae mwy o alw am addysg uwchradd Gymraeg, ac mae'n her fawr dod o hyd i athrawon sy'n medru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fod cymaint o ostyngiad yn rhifau'r disgyblion mae'r cyllid yn mynd i lawr yn sylweddol ac mae gofynion cyflwyno cyrsiau'n mynd yn fwy ac felly costau dysgu yn codi.
Mewn gwirionedd does gen i yr un ateb yn y sefyllfa yma and hoffwn godi rhai pwyntiau. Gwn fod llawer o deuluoedd wedi symud i fewn i Bowys er mwyn i'w plant gael addysg gwlad yn hytrach na mynd i lawr llwybr addysg breifat pe byddent wedi aros yn y dinasoedd mawr.
Beth felly oedd wedi'u denu? Yn syml, ysgolion da. Y rheswm fod yr ysgolion yma'n dda ydi eu bod yn cynnig addysg dda, maent wedi cadw athrawon rhagorol ac wedi cael eu harwain gan benaethiaid blaengar, arbennig lawn.
Yn gyfrifol am hyn i gyd roedd Cyfarwyddwyr Addysg, dynion oedd yn gwybod eu cyfeiriad, ac roedd pawb a weithiai yn y gwasanaeth a hyd yn oed plant yn eu hadnabod a'u parchu.
Cofiaf T Glyn Davies yn dod i Riwhiriaeth a TAV Evans vn dod i Ysgol Uwchradd Llanfair!
Heddiw does gan y gwasanaeth yr un cyfarwyddwr!
Am fod y 'ddogfen' sy'n awgrymu y dylid edrych ar gau ysgolion uwchradd wedi dod i'r amlwg drwy 'ddirgel ffyrdd', mae'r gŵr drwg ei hun wedi ei ollwng yn rhydd.
Digwyddodd yn union yr un peth pan ddechreuwyd trafod addysg gynradd ym Mhowys ac mae effaith hyn wedi bod yn niweidiol iawn.
Nid yw'n bosib trafod y pwnc sef 'beth sy'n gwneud yr addysg gynradd neu uwchradd orau?' Yn hytrach rhoir pob sylw i'r sawl sy'n gallu gweiddi uchaf a daw diwylliant o amharch a phardduo i'r amlwg.
Rydym ni yn Sir Drefaldwyn wedi cael etifeddiaeth ragorol oherwydd arloeswyr mewn athroniaeth addysg.
Roedd y sir ar flaen y gad yn creu ysgolion bilateral yn Llanfair a Llanfyllin, mewn mannau eraill o'r wlad ysgolion modern a gramadeg oedd i fod.
Roedd yma arweinwyr radical yn gwybod beth oedd eu nod ac mae eu gweledigaeth wedi rhoi ysgolion rhagorol inni.
Credaf y dylem gychwyn drwy edrych ar y nodweddion rhagorol sy'n bodoli a sut y gallwn weithio'r rhain i mewn i gynllun arloesol ddechrau'r ganrif yma.
Yn sicr ni fedrwn gadw'r hyn sydd yma rwan. Mae newidiadau yn mynd i ddod a gobeithio mai gweledigaeth, rheswm a pharch fydd yn arwain y datblygiadau.
Wrth gwrs mae hyn yn digwydd ym mhob awdurdod arall yng Nghymru, nid Powys ydi'r unig un. Does dim ateb hawdd and gwyliwn nad ydym yn colli'n ffocws.