Ganrif yn 么l i'r mis hwn bu llofruddiaeth ddwbwl yn Foelwyd, Garthbeibio, a achosodd fraw enbyd drwy'r ardal gyfan. Adroddir yr hanes yn fanwl yn y Montgomeryshire Express (Mawrth 13eg 1906) ac hyd yn oed heddiw mae rhywun yn cael ei ysgwyd gan erchylltra'r digwyddiad.
Cigydd o'r enw John Evans a'i wraig oedd yn byw yn Foelwyd. Roedd y ddau ar eu hail briodas: Eglwyswyr oeddynt ac enillasai Mrs Evans enw iddi ei hun fel meddyg llysiau. Er ei hoedran roedd hi'n iach a chydnerth er iddi dreulio peth amser yn ysbyty'r 'Eye and Ear', Amwythig am fod cataract ar ei llygad. Pwy gyrhaeddodd Foelwyd ar fore'r llofruddiaeth, pan oedd cwnstabl Pugh 芒'i ffrindiau yn llawn helynt ond y postmon gyda ph芒r o sbectols i'r hen wraig.
Ar y pryd fe'i cynorthwyid i redeg y fferm gan Samuel Francis, Llwyn. Ar ddydd Sadwrn Mawrth 10fed fe gyrhaeddodd ef Foelwyd yn fore gan fynd ati ar unwaith i fwydo'r anifeiliaid. Am tua hanner awr wedi saith dechreuodd bendroni pam nad oedd ei feistr wedi codi ac aeth draw at y t欧 gan weiddi, 'Oes yna bobl uma?" Gan na chafodd ateb, curodd ar y drws a'i agor.
Yno, ar lawr y gegin darganfu gorff ei feistr mewn m么r o waed. Gorweddai yno ar ei gefn, ei draed yn pwyntio tua'r drws a'i freichiau ar led. Trodd Sam Francis ar ei sawdl, rhoi clep ar y drws a rhedeg ar ei fraw i fyny'r fordd i Penlan, lle trigai John Jones a'i deulu.
Aeth y ddau yn eu holau i Foelwyd gan fynd i mewn i'r gegin unwaith eto. Sylwyd ar yr anafiadau difrifol ar foch a gwddf y corff, ynghyd a dysglaid o flawd oedd wedi disgyn ar y llawr gan droi'r gwaed yn gymysgfa binc mewn mannau.
Ym mhen arall y gegin roedd drws yn arwain i'r parlwr. Yno, gorweddai Mrs Evans ar ei hochr ar y llawr yn dal i afael yn dynn mewn par o drywsus a berthynai i'w g诺r. Mae'n rhaid ei bod wedi ceisio ei ddefnyddio fel amddiffynfa rhag pwy bynnag oedd wedi ymysod arni. Roedd hi yn wraig 75 mlwydd oed (saith mlynedd yn h欧n na'i phriod) ond gellid gweld oddi wrth gyflwr yr ystafell (y dodrefn wedi eu dymchwel a gwaed dros y lle i gyd) iddi ymladd yn galed am ei bywyd. Aeth g诺r Penlan ar ei union i adrodd yr hanes wrth frawd y cigydd oedd yn byw yn Penybont, ac aeth Sam Francis i'r Rheithordy i ddweud wrth y person D. W. Evans. Anfonwyd wedyn am y i Cwnstabl Pugh yn Llanerfyl. Pobl eraill gafodd wybod ar eu hunion am y trychineb oedd nai y cigydd a drigai yn Efail y Foel a T.L Astley i perchennog y dafarn yn y pentre.
Aeth y dyrfa fechan hon, dan arweiniad yr heddwas yn 么l i Foelwyd lle gwnaed arolwg pellach. Gwelwyd llawer mwy o archollion difrifol ar y ddau gorff a chafwyd fod yno lawer o arian m芒n o gwmpas y lle nad oedd neb wedi ei gyffwrdd. Sylwyd hefyd ar olion traed gwaedlyd yn arwain o'r t欧, a'r rhai hynny yn mynd yn wannach, wannach cyn diflannu'n gyfan gwbl yn ymyl hen geubren beth pellter i ffwrdd. Mewn twll yn y clawdd ar bwys y t欧, daethpwyd o hyd i gwpan a phlisgyn 诺y.
Cyn y drychineb
Y diwrnod cynt roedd Mr Evans wedi bod yn nathliad blynyddol yr 'Erfyl Cadvan and Garthbeibio Friendly Society' yn y Cann Office cyn gadael y lle am y New Inn, Foel. Gadawodd y pentre ar gefn ei ferlen a g诺r o'r enw Rowland Llywarch yn gwmni iddo.
Am hanner awr wedi wyth y noson honno galwodd merch Penlan yn Foelwyd. Deuddeg oed oedd Sarah Jane ac fe welodd ar unwaith fod yno ddieithryn yn cael swper gyda Mr a Mrs Evans. Roedd y dieithryn yn bwyta 诺y wedi ei ferwi ac yn canmol y pryd yn arw. Cwta bum munud fu'r ferch yn y gegin ond fe sylwodd fod y dyn diarth yn Ilydan a thywyll ac yn gwisgo c么t law. Yn ddiweddarach y noson honno roedd rhieni'r ferch yn pasio heibio Foelwyd, ar 么l ymweld 芒 Phentre Bach. Roedd yna olau a s诺n siarad yn y t欧 bryd hynny er ei bod yn hwyr iawn. "Mae'n rhaid fod y dieithryn yn aros noson," oedd sylw'r fam.
Roland Llywarch
Y dieithryn a welwyd yn gadael y Foel yng nghwmni John Evans, ac yn swpera yn Foelwyd wedyn, oedd Roland Llywarch. Fe'i ganed yn Nhy'n Llwyn, y Foel, ond bu'n byw yn Llundain ers rhai blynyddoedd lle roedd yn berchennog ar fusnes llaeth llewyrchus yn Bermondsey.
Roedd wedi dod adref ar wyliau at ei chwaer Mary yn Llanerfyl ac aeth oddi yno i edrych am ei frawd John vna Naherniau Twrch. Oddi yno yr aeth i bentre'r Foel ar y dydd Gwener gan alw yn y New Inn. Anesmwythodd yn arw pan ddaeth g诺r o'r Trallwm i'r dafarn. Evan Evans oedd hwn a'i waith oedd gwerthu peiriannau gwnio. Cyhuddodd Llywarch ef o fod yn aelod o'r heddlu cudd ac roedd mewn cyflwr anniddig iawn pan adawodd yng nghwmni'r cigydd.
Amheuwyd ef yn syth o'r llofruddiaethau ac fe'i disgrifiwyd ef fel g诺r llydan, pum troedfedd, naw modfedd o daldra gyda gwallt du a mwstash. Dywedwyd fod ganddo groen tywyll a hawliodd un tyst ei fod yn 'debyg i Sbaenwr."
Chwilio am Llywarch
Am dridiau bu chwilio taer am Llywarch gyda heddweision arbennig a phobl leol yn brysur wrth y gwaith. Cerddwyd ar hyd glannau'r afon Banwy a chwiliwyd yn ddyfal ym mhob beudy a chowlas drwy'r fro. Barn (os nad gobaith) llawer o drigolion yr ardal oedd ei fod wedi mynd ar goll yn y mynyddoedd a suddo i rhyw gors.
Roedd hi'n stormus iawn ar y nos Sadwrn wedi'r llofruddiaeth wrth i'r heddweision grwydro'r ucheldir rhwng Garthbeibio a Llanwddyn. Galwent o d欧 i d欧 a chael weithiau fod tri neu bedwar teulu dychrynedig yn aros tan yr un to. Fel arfer roedd pob drws ar glo a phob gi芒t wedi ei chlymu'n dynn.
Nid yn ardal Garthbeibio yn unig y gwelid yr heddlu ar waith. Roedd yna chwilio hefyd yng Nghemaes, Dinas Mawddwy, Pen-y-bont Fawr, Llanfyllin, Meifod a llawer lle arall. Gan nad oedd neb yn gallu dod o hyd iddo, ofn llawer oedd ei fod wedi dianc ar y tr锚n.
Yna ar y dydd Llun clywyd fod John Lloyd Tanllan, Llanfihangel wedi gweld g诺r gyda chadach gwyn ar ei ben yn cerdded drwy wely'r nant oedd yn rhedeg drwy goedwig fechan a berthynai iddo. Aeth Cwnstabl Hamer o Lanfyllin ac eraill, i weld os mai hwn oedd y g诺r yr oeddent yn chwilio amdano.
Ddecllath oddi wrtho, gwelodd 诺r tywyll yn cuddio yn y coed. Llywarch oedd hwn, ac er ei fod wedi gweld y dynion ni cheisiodd ymosod arnynt. Ond pan alwodd Hamer ei enw rhuthrodd i'r nant gan chwifio cyllell. Roedd at ei bengliniau mewn d诺r yn chwyrnu a chrensian ei ddannedd. Croesodd i'r ochr draw ac aeth Hamer ar ei 么l drwy'r drain a'r drysi. Yna bwriodd yr heddwas ef ar ei ben gyda'r fath nerth nes i'w bastwn dorri'n ddarnau. Cwympodd Llywarch i'r llawr heb ollwng ei gyllell (un a ddygwyd o Foelwyd). Erbyn hyn roedd dynion eraill wedi cyrraedd i helpu Hamer a llwyddwyd i roi gefynnau am ddwylo'r ffoadur. Codwyd ef ar ei draed a cherddodd yn dawel at y ffordd oedd yn arwain i Lanfyllin.
Erthygl gan Dafydd Morgan Lewis