Ar yr 8fed o Fedi'r llynedd fe gyfarfum 芒 Bob ym maes parcio Rhyd-ddu. Roedd hi'n fore clir ac roeddem yn edrych ymlaen at gael gweld golygfeydd gwych o'r copa. Cymerwyd tro i'r chwith allan o'r maes parcio a gyrru at le picnic yng nghanol Coedwig Beddgelert.
Wrth inni barcio'n cerbydau gallem glywed hofrennydd a phan edrychon ni gallem ei gweld yn glanio ar Foel Hebog. Clywsom yn ddiweddarach mai ymarferiad oedd hwn i brofi ble i lanio pe bai'n rhaid achub rhywun oddi yno. Oddi yma cerddwyd i fyny trac hir dros linell Rheilffordd Ucheldir Cymru. Ar 么l dringo ychydig gyda nant ar y chwith i ni gallem weld Moel yr Hebog ar yr ochr chwith a Moel yr Ogof o'n blaenau.
Dringwyd yn araf oherwydd roedd hi'n ddiwrnod poeth ac roedd un o'r c诺n, Tayo, gyda ni. Wrth gwrs roeddem yn iawn, roedd y golygfeydd o gopa Moel yr Ogof yn ffantastig a gallem weld y caffi ar gopa'r Wyddfa yn glir. Wedi hyn, dyma ni'n disgyn o'r copa a cherdded i'r chwith gan feddwl y gallem gyrraedd Ogof Glynd诺r ond roedd yn rhy beryglus. Roeddwn wedi cymryd rhai lluniau o'r fynedfa i'r ogof ar y ffordd i fyny.
Mae yna hanes diddorol am Owain Glynd诺r ym Moel yr Ogof. Mae'n debyg fod y Saeson yn ei ymlid ac yn 么l yr hanes nofiodd afon Glasmor, daeth i gopa Moel Hebog ac yna dringodd Simnai Moel Hebog. Yna canfu'r ogof ar Foel yr Ogof a bu'n cuddio yno am chwe mis.
Yna aethom yn 么l i'r copa. Mae copa Moel yr Ogof yn ddiddorol hefyd. Mae'n greigog iawn gyda llawer o ffosiliau sy'n arwydd fod yr ardal hon i gyd wedi bod o dan lefel y m么r rywbryd neu'i gilydd.
Daethom i lawr o'r copa ac aros i gael tamaid o ginio. Yna aethom ymlaen ar hyd yr esgair ogleddol-orllewinol hyd nes i ni ddod at gopa Moel Lefn. Gallem weld Ynys M么n a'r traeth yr oeddem wedi cerdded ar ei hyd ym mis Awst gyda Choedwig Niwbwrch y tu 么l iddo yn glir oddi yma. Gallem weld hyn i gyd ynghyd 芒'r golygfeydd ardderchog ar draws blaen Cwm Pennant a Bwlch y Ddwy Elor hyd at esgair Nantlle. Golygfa wych i'w mwynhau a'i chadw yn y cof cyn troi yn 么l a dilyn y llwybr i lawr y cwm am adref.
|