Cyfnod prysur arall i'r dawnswyr, ond uchafbwynt y mis yn sicr oedd ymweliad dawnswyr o Lydaw - Dawnswyr Nevezadur - 芒 ni yn niwedd Ebrill. Roedd y Cyfnewid rhwng Dawnswyr Llangadfan, Aberystwyth a'r Llydawyr. Roeddynt yn cyrraedd yma nos Lun, Ebrill 25. Y dawnswyr i gyd yn aros efo'r dawnswyr lleol. Ail gyfarfod hen ffrindiau, a rhai newydd wrth gwrs. Fore Mawrth, ymweld ag Ysgol y Banw a phrofi naws ysgol Gymreig ei chyfrwng. Ysgol Lydewig ei chyfrwng yw eu ysgol hwy - Ysgol Diwan. Plant y Banw yn dawnsio i'r Llydawyr a hwythau'n dawnsio i'r plant. Cyfle i'r Cymry ddysgu dawns syml o Lydaw dan arweiniad Andre Penglaou, eu harweinydd yn s诺n y bombarde (offeryn chwyth swnllyd) ffidil ac acordion. Pawb yn eu gwisgoedd dawnsio. Ffwrdd i weld Neuadd Cynhinfa a chael te bach yno a dipyn o hanes y cartref. Yn 么l i swpera yng ngwesty'r Dyffryn cyn mynd yn 么l i'r Ganolfan a Noson o Hwyl - o ddawns a ch芒n - croes rhwng Noson Lawen, Twmpath a Fest Nos. Diolch o galon i griw Cut Lloi am eu cyfraniad hwyliog a safonol. Diolch i Danwydd Banw a Chwmni Ffermwyr Wynnstay am eu cefnogaeth ariannol. Bore Mercher, ffwrdd a ni yn y bws pinc - bws y Llydawyr - dros Fwlch yr Oerddrws ac ymlaen i Flaenau Ffestiniog i ymweld 芒 Llechwedd. Rhai'n ddigon dewr i fynd i'r pwll mawr. Treulio diwrnod yno a chael 'lobsgows' i ginio. Ymlaen i Dalybont (Aberystwyth) i swpera - a'r cyfan wedi ei baratoi gan y Llydawyr! Ie, ar 么l diwrnod o brysurdeb. Galetiqs - math o grempog - oedd ar y fwydlen. A'r cytew (batter) wedi ei baratoi gan un o'r criw. Noson hwyliog dros ben. Arhosai'r dawnswyr yn Aberystwyth tan fore Sadwrn - rhaid oedd cael noson i ffarwelio - Fest Nos arall yn Llanbadarn Fawr. Llwyddiant fu'r ymweliad yn sicr - gan ddiolch i bawb a fu ynglyn 芒'r ymweliad - plant yr ysgol a'r athrawon, Parti Cut Lloi ac yn arbennig Dewi Morris, Cadeirydd ein Cyngor Bro a ddyrchafwyd yn Faer! Mae'r Llydawyr yn awyddus i gael pob trefniadaeth yn gywir. Diolch Dewi. Erthygl gan M. O.
|