Cafodd Roger Jukes, Tynybryn, Llanfair ei anrhydeddu gyda'r MBE fel cydnabyddiaeth i'r cyfraniad a wnaeth gyda Gap Pontbren. Ganed Roger yn Sir Fynwy a bu'n rheolwr fferm yn Swydd Henffordd cyn symud i Tynybryn yn 1972. Mae'n briod ag Eirlys, a fu'n gefn mawr iddo ac mae ganddynt dri o blant.
Pwysleisiodd Roger ei fod yn derbyn yr anrhydedd ar ran Gap Pontbren. Bu'r gap hwn yn weithredol ers 1998 ac mae deg o ffermydd yn ardal Nant Pont-Bren ynghlwm a'r cynllun, sy'n cwmpasu 2500 o erwau.
Gwnaethpwyd llawer o waith cadwraeth a phlannwyd miloedd o goed ar y ffermydd yn ogystal a chreu pyllau a gwarchod tiroedd gwlyb.
Mae Roger yn falth iawn fod yr elfen gymdeithasol mor gryf o fewn y grwp a'u bod yn gweithio fel tîm, rhywbeth a ddiflannodd mewn sawl ardal bellach.
Rhoddir pwyslais ar addysgu'r to ifanc yn ogystal fel eu bod yn gwerthfawrogi eu hamgylchedd a'u cynefin. Llongyfarchiadau mawr i Roger - fe brofodd ei bod yn bosib i amaethu'n effeithiol iawn ynghyd a datblygu cadwraeth gan hybu byd natur ar yr un pryd.
|