Ers dechrau mis Chwefror eleni mae criw o gerddorion ifainc wedi bod yn dod at ei gilydd bob nos Fawrth ar 么l ysgol yn Llanfair Caereinion i gymryd rhan mewn gweithdai roc a pop a drefnwyd ar y cyd gan Fenter laith Maldwyn a'r Urdd. Roedd tri thiwtor profiadol o Gwmni Roced yng ngofal y gweithdai sef Huw Owen (sy'n aelod o Kentucky AFC), Steve Roberts (aelod o'r 'Radio Flyers') a Dr Joanna Richards sy'n ddoctor mewn cerddoriaeth. Rhai o selogion y gweithdai oedd aelodau'r gr诺p 'Gwiber' sydd bellach wrthi'n gwneud gigs ar draws y Canolbarth ac sydd wedi datblygu llawer ers eu perfformiad cyhoeddus cyntaf yn Llanrhaeadr ym Mochnant y llynedd! Wrth wrando arnynt yn chwarae yn ddiweddar mae'n amlwg eu bod wedi elwa o sylwadau'r tiwtoriaid ac mae 么l ymarfer ar eu caneuon. Mae yna griw o ferched hefyd wedi bod yn rhan o'r bwrlwm ac maent wedi recordio deunydd dan yr enw 'Hairband'. Er gwaethaf eu diffyg profiad, mae'r gwaith ar y CD yn swnio'n addawol iawn. Sticiwch ati, mae'r siartiau yn aros amdanoch! Hoffai Menter Maldwyn ddiolch i Gronfa Pobl Ifanc 'Dyma Dy Gyfle' am ariannu'r prosiect ac i Mrs Heulwen Davies o'r Adran Gerdd Ysgol Uwchradd Caereinion am leoliad i gael cynnal y gweithdai. "Gobeithio mai dim and dechreuad yw'r gweithdai yma a byddai'n braf cael grwpiau ifanc yn ffurfio o gwmpas Maldwyn a gweld s卯n leol yn datblygu a chael grwpiau Cymraeg a Chymreig i ddod i Faldwyn i wneud gigs." medd Euros Richards o Fenter Maldwyn.
|