Dirgelwch y Camp
"Fe gofiwch imi roddi llun o'r adeilad a adwaenid fel 'Y Camp' ym mhentre'r Foel, y mis diwethaf.
Er apelio am wybodaeth yng欧n 芒 tharddiad yr enw, ni ddaeth eglurhad, and cefais ychydig o wybodaeth bellach. Yn 么l y diweddar Richard Lewis, roedd dau d欧 yma, sef Camp Mawr a Camp Bach.
Y person olaf i fyw yma mae'n debyg oedd y diweddar Ned neu Ted Francis a adwaenid yn Ileol fel 'Ned Camp'. Symudodd y cyfaill i ardal Llanfyllin a bu'n arweinydd C么r Meibion yno. Mae'n beryg na chawn byth wybod sut y cafodd Y Camp el enw.
Betsi Mopart
Rwyf yn ddiolchgar i John Caergof am gael benthyg Ilun o'r diweddar Mrs Elizabeth Evans, Moelpart gynt yn sefyll gyda'r Camp y tu 么l iddi. Roedd Mrs Evans yn byw drws nesaf i'r Camp, sef 2 T欧 Newydd, cartref Mrs Mary Blainey bellach.
Fe ddeuthum ar draws erthygl a ysgrifennwyd gan Emyr Davies yn rhifyn Hydref 1979 o'r Plu (bron i 30 mlynedd yn 么l) ble roedd yn cofnodi rhai atgofion am y wraig arbennig hon. "Cof plentyn sydd gennyf am Elizabeth Evans gynt o'r Moelpart, Llangadfan. Mae'r cof hwnnw'n glir am ei bod yn un o ffrindiau pennaf Nain, sef Catherine Watkins, Roundfield.
Un o nodweddion Betsi (fel yr adnabyddid hi gan bawb o'i chyfoedion) oedd ei gallu mawr fel nyrs; os oedd salwch, neu enedigaeth, neu farwolaeth yr oedd pawb yn ardal y Foel yn gyrru amdani.
Dynes sionc ei throed a ffraeth ei thafod yn mynd o le i le yn gweinyddu a gwella.
Yr oedd 'Eli Betsi' yn enwog trwy'r sir am ei allu i iachau pob toriad, neu wenwyn oedd yn y corff, ac yr oedd 'tin' ohono yn y t欧 bob amser ar gyfer briw neu gwymp ni'r plant.
Cofiaf ei weld mewn 'tiun' oxo xhwe chiwb yn felyn ac yn hyll, ond er mor ddiolwg yr oedd yn 'bowltis' gwyrthiol. Tybed lle mae'r rysait erbyn hyn?
Dyma benillion ganddi i'r Afon Banwy:
Afon Banwy
Mewn tawel fryn ger Dolymaen,
Yng nghanol brwyn gwyrddleision, ,
Cychwyna Banwy fach ei thaith ,
Am lasach donnau'r eigion. ,
Ymdreigla mlaen drwy raean man,
Gan furmur melys emyn, ,
A swyna bob rhyw gornant I芒n ,
Ar hyd ei thaith, i'w dilyn.
Cyrhaedda ardal deg y Foel,
Wrth redeg drwy y dyffryn, ,
A than y pentref ar y dd么,
l Gwahodda'r Twrch i'w chanlyn. ,
Ar 么l ymuno, rhed y ddwy ,
Ymlaen mewn undeb addas, ,
A chollai'r Twrch ei henw gynt, ,
Ar ddiwmod y briodas. ,
Ac heibio'r fynwent newydd 芒,
Heb feddwl am y beddau, ,
Gan blethu ei halawon mwyn,
Ym mhresenoldeb angau; ,
Dwfn ocheneidiau hwn ni chlyw, ,
Llawenydd yw ei hanian; ,
A threigla heibio'i ffrydiau byw,
I froydd gwiw Llangadfan.
Daw yma i'w chwrdd yr Afon Gam ,
0 fryniau Nant yr Eira ,
A thrwy Lanerfyl o deg glod,
Am Lanfair, ymddolenna, ,
Ni chymer seibiant yn un man,
Pan ar ei thro yn tramwy, ,
A chaiff y Banwy ben ei thaith ,
Yn nyfroedd gloew'r Vyrnwy. ,
E. Evans, Moelpart
Mae'n amlwg fod Mrs Evans yn feistres ar farddoni yn ogystal 芒'r doniau y soniwyd amdanynt elsoes.