Fe welodd milfeddyg o'r dref y digwyddiad hwn fel cyfle i sefydlu cysylltiad rhwng Maldwyn ac Uganda. Yr oedd gan Lorna Brown, milfeddyg sydd yn adnabyddus yn lleol, ddiddordeb eisoes mewn cynorthwyo datblygiad amaethyddol gwledydd Affrica. Meddai, "Pan es i draw y tro cyntaf i Uganda, roedd yn syndod i mi y prinder adnoddau yn eu cefn gwlad. Roedd yn frwydr ddyddiol i'r mamau wrth iddynt fethu a bwydo eu plant. Er bod y bridiau lleol o wartheg a geifr wedi'u haddasu at yr hinsawdd, nid oeddent yn ddigon cynhyrchiol". Ymunodd Lorna a Richard Jones, dyn lleol a oedd yn rhannu ei syniadau a'i dyheadau, i sefydlu cangen Gymreig Farmers World Network sef Dolen Ffermio. Esboniodd Richard Jones yr hanes gwleidyddol yri fyr i minnau. "Dioddefodd diwydiant amaethyddol Uganda yn fawr o dan lywodraeth unbeniaethol Idi Amin (1971-1985). Gwaharddodd fewnfudiad ac allfudiad da byw a dinistriwyd gwartheg y wlad. Felly roedd rhaid i'r ffermwyr gwledig ailgychwyn". Pwrpas Dolen Ffermio yw nid yn unig cynorthwyo hyn, ond hefyd i gyflwyno technolegau newydd iddynt er mwyn gwella safon a chynhyrchedd eu da byw, fel y gallant fwydo'u teuluoedd a derbyn incwm dibynadwy o'u gwaith. Fel y darganfu Lorna a Richard, mae'r ffermwyr yn awyddus i ddysgu ac yn barod i arbrofi gyda dulliau newydd. Mae hanes grwp o wragedd gweddw yn prynu tanc llaeth i rannu rhyngddynt, yn dangos yr ymdrech a'r cydweithio sy'n digwydd. "Mae'n anodd credu faint mae'r bobl yma wedi byw trwyddo", dywedodd Lorna "dydyn nhw ddim yn cwyno nac yn edrych am gydymdeimlad, maent yn gweithio'n ddygn ac yn benderfynol o oroesi a llwyddo!" Mae ymgyrch Dolen Ffermio yn amlygu pwysigrwydd gweithio'n rhyngwladol a'r modd gall ffermwyr o bedwar ban byd rannu eu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Anwen Richards, Llwydiarth
|