'Mae'r cap o America,
mae'r co'n Americana;'
Twm Morys bia'r cwpled, allan o awdl cadair Mathrafal eleni. "Drysau" oedd testun yr awdl, ac yn gefndir i'r cwbl mae chwedl 'Branwen ferch Llyr' o'r Mabinogi. Ar ddiwedd y clasur honno o chwedl, mae saith gwr a ddihangodd gyda phen Bendigeidfran o gyflafan enfawr yn Iwerddon yn ymgartrefu ym Mhenfro am bedwar ugain mlynedd.
Pedwar ugain mlynedd hyfrytach ni threuliasant erioed. O'r neuadd fawr frenhinol roedd dau ddrws yn agor iddynt, ond yr oedd un wedi'i gau. Y drws hwnnw oedd yn wynebu Aber Henfelen i gyfeiriad Cernyw a rhybuddiodd Bendigeidfran hwy na allent aros yno pe baent yn ei agor.
Ar 么l pedwar ugain mlynedd o fywyd braf digynnwrf fodd bynnag, penderfynodd Heilyn agor y drws. Pan agorwyd y drws hwnnw dychwelodd realiti bywyd a sylweddolasant o'r newydd cymaint a fu eu colled erioed.
"Awdl mewnlifiad heddiw"
Nid awdl am y Mabinogi mohoni, fodd bynnag. Awdl heddiw yw hon. Awdl am y mewnlifiad o Saeson i Gymru ydy hi. Awdl y byddai rhai o'r garfan wleidyddol-gywir boncyrs yn ei galw'n hiliol mae'n siwr! Cyfeirir at "y cwd anghyfiaith" yng nghorff yr awdl. I'r rhai ohonoch [fel fi!] oedd ddim yn siwr o ystyr y gair anghyfiaith, fe'n sicrheir gan y geiriadur mawr mai "estron" yw ystyr y gair. Hyderaf nad oes angen yr un geiriadur ar neb i ganfod ystyr y gair 'cwd'!!
'Swn y car, a'i ddrws o'n cau
trwy'r amen, trwy'r emynau;
Swn bach o holl synau byd,
swn y marw'n ymyrryd'.
Darlun sydd yma o griw o Gymry ynghanol canu a hwyl braf y dafarn leol, yn clywed swn car yn parcio y tu allan, ac estronwr yn dod i mewn i holi'r ffordd i dy oedd ar werth. Nid ramdamio estroniaid yw prif ffocws yr awdl, fodd bynnag. Y ni sy'n ei chael hi. Y ni, Gymry Cymraeg llywaeth di-asgwrncefn, sy'n byw'n bywydau braf di-gynnwrf fel y gwyr rheiny o'r Mabinogi, ym Mhenfro gynt. Rhy ddi-asgwrn-cefn i agor y drws ar Aber Henfelen. Hynny yw, yn rhy wan i agor ein llygaid i realiti'r sefyllfa sydd ohoni - a gweithredu.
Cymro Cymraeg oedd yn gwisgo'r "cap o America" yn yr awdl. Symbol ohonom ni fel cenedl yn gwerthu'n treftadaeth i'r diwylliant eingl-americanaidd. Cam bychan wedyn yw gwerthu'n heiddo materol i'r Saeson fel y gwnaeth y cymeriad a'r "cap o America" yn yr awdl.
Heilyn agorodd y drws hwnnw ar Aber Henfelen, a Heilyn oedd ffug-enw Twm Morys a safodd ar ei draed ym mhafiliwn Mathrafal eleni:
Awn, was! Agorwn ni o!
Rhyddid fydd edrych drwyddo,
ofn mynd i ddwr dyfn y m么r
yn hogyn yw ofn agor.
Ein cymell, yn wir, ein herio ni Gymry Cymraeg, ni ddarllenwyr Plu'r Gweunydd, bob un ohono' ni, i ddeffro a wynebu'n cyfrifoldebau wna'r awdl heriol yma:
y mae drws y dylem droi ei ddwrn; drws yr hyn a ddaw,
ym mhen draw distaw hen dai.
*
Mae na lot fawr wedi digwydd ers i Plu'r Gweunydd d'wetha' fynd i'r wasg. Holl hynt a helynt y 'steddfod fawr fythgofiadwy, y clywir llawer mwy amdani a'i chynnyrch yn y golofn hon yn ystod y gaeaf sydd i ddod.
Mae'n edrych yn bell yn 么l yn barod ers i Dafydd Iwan gael ei lambastio o sawl cyfeiriad am ddeud ychydig o wirioneddau ar brynhawn crasboeth ym Meifod.
Yr un Dafydd Iwan sydd erbyn hyn yn llywydd ar yr ail blaid wleidyddol fwyaf yn y wlad. O fewn ychydig ddyddiau i'r penodiad hanesyddol yma, wele ddiflaniad yr alwad ddi-ddim, wirion honno am "statws genedlaethol lawn", neu beth bynnag oedd union eiriad y mymbo jymbo eiriol wirion honno.
Fe'i newidiwyd am yr alwad syml, glir ac eglur gan Blaid Cymru, am "Annibyniaeth". Hawdd yes gweld dylanwad bos newydd y Blaid. Braf yw gweld arweinydd plaid o bwys, sydd yn medru deud y gwir, a'i ddeud yn glir.Y cwestiwn mawr, wrth gwrs. ydi a yden ni fel cenedl yn ddigon dewr i agor y drws tuag at Aber Henfelen, a dilyn yr arweinydd newydd ysbrydoledig i ben y daith.
Nid estroniaid, nid dynion a merched o gig a gwaed yw gelyn yr iaith Gymraeg. Iaith yw'r gelyn. Yr iaith eingl-americanaidd. Mae gormod yn ei siarad hi ar stepen ein drws i ni allu meiddio rhoi hawl cyfartal a'r Gymraeg iddi yn ein gwlad ni'n hunain. Yr unig ffordd i sicrhau dyfodol disglair i'r Gymraeg yw gwneud y Gymraeg yn brif iaith Cymru. Diddymu'r iaith Saesneg fel pwnc craidd ym mhob un ysgol drwy Gymru gyfan. Dyna be' fydde chwyldro!
"Drwy ddulliau chwyldro yn unig........ chwedl Saunders Lewis ddegawdau yn 么l.Sydd yn dod 芒 ni yn 么l yn grwn at "y cap o America". Nid dim ond un iaith estron sydd yn mewnfudo i'r Unol Daleithiau, ond dwsinau. Yno, mae byddin o athrawon yn dysgu prif iaith y wlad fel ail iaith i blant di-Saesneg, fel eu bod, maes o law, yn gallu dysgu pob pwnc trwy gyfrwng yr iaith honno, er nad yw eu rhieni yn gallu gair o'r iaith.
Llwyddiant ysgubol o fewn un genhedlaeth yn unig. Hawdd o beth fyddai gwneud hynny yn ymarferol yng Nghymru fach os medrant yn yr Amerig fawr. Dilyn esiampl America er mwyn achub ein treftadaeth Gymraeg? Mae 'na eironi go iawn yn fan 'na rhywle!
Does ond angen ychydig bethau i wireddu hynny - ewyllys wleidyddol, cawr o wleidydd [neu ddau], ac, yn bennaf oll, ambell i Heilyn i agor drysau.
Gan mai dim ond tair limrig ddaeth i law, cant eu cyhoeddi y mis nesaf ynghyd 芒 chynnyrch cystadleuaeth ffres, sef llunio limrig yn cynnwys y gair 'cut'. Bydd gwobr o chwip d卯n ar gael i'r sawl sy'n llwyddo i sillafu'r gair yn anghywir!
Arwyn Davies