Cyfarfod Agoriadol nos Fawrth - gyda chyflwyniad gan y gwledydd Celtaidd yn eu tro a thwmpath i ddilyn. Taith i ymweld ag Abaty Jeraux, a phentre Kells (ond dim yr enwog Book of Kells) a melin oedd yn malu. Cystadleuaeth y G芒n Werin gyda'r nos - yr lwerddon oedd yn fuddugol, gyda'r Alban yn ail, a Chymru yn drydydd. Roedd Arfon Gwilym yn un o'r beirniaid. Noson Lawen a Thwmpath i ddilyn yng ngofal Ynys Manaw a'r Gwyddelod. Cernyw a Llydaw yn gyfrifol am y Noson Lawen. Trip dydd Iau o gwmpas County Kilkenny - mynd heibio canolfan werin a chael gwledd o ddawns gan blant Gwyddelig ardderchog. Dyma noson y G芒n BanGeltaidd - Cernyw oedd yn fuddugol, gyda Chymru yn ail agos (wedi trafod hir ymysg y beirniaid). Diwrnod bach tawel - gorymdaith o gynrychiolwyr o'r gwahanol wledydd drwy'r dref yn y pnawn. Cyngerdd mawreddog yn Nghadeirlan Saint Canice gyda chorau o'r Alban, Cymru, Llydaw, Cernyw ac lwerddon yn cymeryd rhan. Lleisiau Mignedd o dan arweiniad Maldwyn Parry oedd yn cynrychioli Cymru. Noson y Cymru a chynrychiolaeth arbennig yno - dawnswyr Tipyn o Bopeth, Dylan Williams, Lleisiaur Mignedd, Mathew Burke (clocsiwr), C么r Cardigan, Gwenan Gibbard (telyn) ac Arfon Gwilym. Dyma ddiwedd y daith bron. Cystadleuaeth y corau a'r dawnswyr. Enillodd Tipyn o Bopeth y parti dawns agored, C么r o'r Alban aeth a'r wobr corau cymysg, a Lleisiau'r Mignedd enillodd y Cwpan. Noson Lawen yng nghwmni yr Albanwyr. Gresyn nad oes fawr ddim s么n yn y papurau Cymraeg na'r cyfryngau am yr Wyl! Roedd pwt yn y Cymro ar Fai 17 - bron i fis wedi'r Wyl. Mae llawer o waith caled yn mynd yrnlaen am fisoedd i sicrhau llwyddiant yr Wyl o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n diolch yn fawr i Tegwyn Williams o Lanelwy - ein trefnydd ni. Marion Owen
|