³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Annie'n Abseilio Annie'n Abseilio
Tachwedd 2007
Sialens i Annie wrth iddi abseilio i lawr Tŵr Marcwys.

Ym mis Mai eleni gofynnodd Hywel y mab, sydd â golwg gwael imi, "Wnei di abseilio tuag at y deillion?" Ni chymerais lawer o sylw ohono. Fis yn ddiweddarach gofynnodd imi eto. "Wel, o'r gore te", medde finne, "mi wna i, tyrd imi glywed y tâp yna i weld pa bryd a beth sydd ei angen".

Cefais y manylion a ffurflenni noddi gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Mae'r Gymdeithas yn rhoi gwasanaeth i dros 3000 o bobl ddall a rhannol ddall mewn chwech Sir yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Sir Drefaldwyn. Maent yn recordio llyfrau llafar Cymraeg a phapurau llafar. Mae angen codi arian fel hyn oherwydd bod llai o bobl yn gadael eu harian i'r gymdeithas yn eu hewyllysiau y dyddiau yma.

Byddant yn defnyddio yr arian i ddatblygu gwasanaethau megis: llyfrau, gwasanaeth adfer, rhoi cyngor a gwybodaeth a darparu offer arbennig i ddeillion.

Dyma fynd ati i geisio noddwyr. Dechreuais mewn priodas yn y Foel, roedd y cwpwl hapus wedi cael y gwasanaeth ym Mhistyll Rhaeadr, Llanrhaeadr ym Mochnant. Gofyn i aelodau yr eglwys ac i'm cymdogion. Roeddwn yn casglu noddwyr ym mhob sioe, pwyllgor, yn y farchnad anifeiliaid, yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug, noson ganu gwlad, Merched y Wawr y Foel, caffi, y feddygfa, Wynnstay Farmers yn Llanfair Caereinion, yr ATB lleol, Siop Foel ac ym mhenwythnos Merched y Wawr yn Bangor. Roeddwn yn teimlo yn eitha' digywilydd ar brydiau a chefais lawer o arian heb ofyn amdanynt.

Tŵr MarcwysBeth bynnag daeth y diwrnod mawr sef Medi 23, 2007. Daeth bws mini a chefnogwyr i fyny o'r ardal. Roedd yn rhaid bod yno erbyn hanner awr wedi un i gofrestru. Roedd rhaid ymgynnull wrth droed y tŵr i gael cyfarwyddiadau a gwisgo'r gwregys a chap caled er diogelwch. Roedd deuddeg yn cymryd rhan, roedd pedwar yn mynd i fyny'r tŵr ar unwaith, yn yr ail 'hêt' oeddwn i. Wel i fyny â fi, un cant a phymtheg o stepiau a dyna fi ar ben y tŵr, roedd yn ddiwrnod hyfryd a'r olygfa yn fendigedig o bob cyfeiriad. I Edrychais i lawr a rhoddais 'royal wave' i'm ffrindiau a theulu oedd yn edrych yn fach o'r fan honno. Daeth yn amser canolbwyntio'n ofalus.

Roedd y cyfarwyddwr yno a dechreuodd wrth glymu'r rhaffau wrth y gwregys, yna dringo dros y reiliau. Sefyll ar yr ochr allan a gafael yn dynn yn y rheiliau, y llaw chwith i afael yn y rhaff a'r llaw dde o tucha iddi, a gofalu cadw'r dwylo yn glir o'r clipiau haearn. Gadael i'r pen - ôl fynd yn is i lawr na'r traed, erbyn hyn roeddwn wedi gollwng y reliau gan afael yn dynn yn y rhaffau. Symud y traed bob yn fodfedd i lawr darn cyntaf y tŵr a gadael i'r rhaff fynd drwy'r dwylo yn araf a rheolaidd. Yna cerdded yn ysgafn â'r traed i lawr ochr y tŵr, roedd yn deimlad ysgafn a hyfryd.

Cyrraedd y gwaelod a'r camerâu yn fflachio a minnau yn teimlo'n falch ac yn hapus dros ben. Roeddwn wedi edrych ymlaen at y fenter ac rŵan roeddwn wedi cwblhau'r weithred. Drwy haelioni pawb a' m noddodd, cesglais £1,721. Diolch o galon i bawb a'm cefnogodd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý