成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Gweision a morynion Eithnog Hall gydag aelodau o deulu Crewe-Read Boddi yn y Banwy!
Mai 2009
Alwyn Hughes sy'n adrodd hanes damwain a ddigwyddodd ger Llanfair bron i ganrif yn 么l.

"Yn anffodus clywir am ddamweiniau angeuol ar y ffordd yn aml, ond tybed faint ohonoch sy'n gwybod am ddamwain a ddigwyddodd ger Llanfair bron i ganrif yn 么l?

Bu farw dau berson ifanc wrth geisio croesi'r Afon Banwy yn ymyl Plas Eithnog ddechrau Rhagfyr 1912. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Mr David Jones, Glan yr afon am dynnu fy sylw at yr hanes, a diolch iddo hefyd am gael benthyg copi o'r adroddiad a ymddangosodd yn y Montgomeryshire Express and Radnor Times, Rhagfyr 10fed, 1912 ynghyd 芒'r llun gwych o'r bobl yn sefyll o flaen Eithnog.

Yn 么l yr hanes roedd Mr a Mrs R.O. Crewe-Read a'u teulu wedi symud i Eithnog ers tua pedwar mis. Roedd rhai gweision a morynion wedi symud yno gyda hwy, ond roedd eraill o'r staff yn byw yn lleol.

Ar y pnawn Llun dan sylw, fe benderfynodd y gyrrwr (chauffeur) Betram Ashcroft, a'r forwyn parlwr Jennie Vaughan y byddent yn dal y tr锚n bach a oedd yn mynd o Lanfair i'r Trallwm.

Oherwydd fod yr orsaf gryn siwrne i ffwrdd yn Llanfair, roedd cwch yn cael ei ddefnyddio i groesi'r Afon Banwy islaw Eithnog. Roedd weiren ffens blaen wedi'w chysylltu o boptu'r afon, ac aeth y cwch ar draws drwy dynnu'r weiren tra'n eistedd yn y cwch.

Mae'n debyg fod llif uchel y diwrnod hwnnw, ond er gwaethaf hyn, fe benderfynodd y ddau i geisio croesi"r afon.

Roedd Mary Ann Thomas, Tanybryn wedi clywed s诺n sgrechian a phan edrychodd drwy'r ffenest gwelodd ddau berson yn mynd dros y "weier" ac fe redodd i Felin Dolrhyd i geisio cael cymorth.

Dechreuwyd edrych am y ddau yn syth, ond ni ddaethpwyd o hyd i gorff tan y dydd canlynol.

Daeth David Jones a Joseph Astley o hyd i gorff y forwyn mewn llwybr samon tua milltir i lawr yr afon. Darganfuwyd corff y gyrrwr rhai dyddiau'n ddiweddarach tra roedd y cwch wedi cael ei ddarganfod gerllaw Meifod, tua chwe milltir i ffwrdd.

Roedd y forwyn Jennie Vaughan yn 22 oed, yn ferch i Richard Vaughan o Ford, Alberbury, Sir Amwythig ac roedd i briodi ymhen mis. Claddwyd hi ym mynwent Cegidfa a gwnaed yr arch, ynghyd 芒'r trefniadau angladdol gan Mr Astley, Llanfair. Daeth Bertram Ashcroft 27 oed, o Frome yng Ngwlad yr Haf ac roedd newydd adael y fyddin cyn dod i Eithnog gyda theulu'r Crewe-Read.

Cynhaliwyd gwrandawiad (inquest) yn yr ystafell fwyta yn Eithnog deuddydd ar 么l y ddamwain, ble gwrandawyd ar dystiolaeth. Dywedodd Mr Crewe-Read ei fod yn Llundain ar y pryd; a dywedodd hefyd ei fod wedi rhybuddio ei staff nad oeddent i groesi'r afon os oedd llif mawr.

Penderfynwyd yn y diwedd fod Miss Vaughan a Mr Ashcroft wedi marw drwy foddi'n ddamweiniol. Awgrymwyd hefyd y dylid gosod y weiren yn uwch i fyny'r afon a sicrhau ei bod yn cael ei chlymu'n saffach.

Ni wyddom yn sicr pwy yw'r bobl a welir yn y llun a dynnwyd yn 1912. Dic Goodwin, Station Road, garddwr Eithnog sydd gyda'r daeargi ar y chwith a 'Nain Rowlands' o Stryd Wesle yw'r drydedd o'r chwith - hi oedd y gogyddes. Mae'n bosib mai aelodau'r teulu Crewe-Read a welir ar y dde. Ni wyddom pwy dynnodd y llun - gall fod yn J.W. Ellis, Llanfair. Diolch o galon unwaith eto i David am rannu ei wybodaeth enfawr gyda mi."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy