³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Plu'r Gweinydd
Dr Roland Jones Gwobr y Frenhines
Ebrill 2010
Hanes Dr Roland Jones syddd wedi ennill gwobr arbenning y Frenhines ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach.

Ymwelodd Dr. Roland Jones, mab John ac Audrey Jones, Penybelan, Llanfair Caereinion â Phalas Buckingham yn ddiweddar i dderbyn Gwobr Arbennig y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Mae Dr Jones yn Ddarlithydd ym M h r i f y s g o I Caerdydd ac yn gwneud ymchwil i'r berthynas rhwng alcohol a thrais mewn pobl ifanc.

Mae'n aelod o Grŵp Ymchwil Caerdydd i Drais a Chymdeithas o dan arweiniad yr Athro Jonathan Shepherd, a enillodd y wobr bwysig hon eleni.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Jones mewn seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham. Dyfernir y Wobr arbennig hon bob dwy flynedd ac mae'n rhan o'r system genedlaethol o anrhydeddau.

Rhoddir y wobr i brifysgolion a cholegau addysg bellach am waith a ragoriaeth eithriadol. Mae gwaith y grŵp o Gaerdydd wedi derbyn sylw cenedlaethol a rhyngwladol am ei ymchwil I geisio esbonio achosion trais mewn pobl ifanc.

Mae ymchwil y grŵp hefyd wedi helpu i oleuo polisi'r llywodraeth ar drwyddedu a phlismona alcohol.

Mae Dr Jones yn gyn Brif Fachgen yn Ysgol Uwchradd Caereinion. Cwblhaodd ei hyfforddiant meddygol yn Lerpwl ym 1997 ac yna arbenigodd mewn seiciatreg, gan hyfforddi yn Ysbyty Maudsley yn Llundain.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Winston Churchill iddo yn 2003 a roddodd gyfle iddo wneud ymchwil yn America ac Awstralia i'r defnydd o dechnoleg fideo-gynadledda I gynnal cyfweliadau seiciatrig.

Cwblhaodd MSc mewn Epidemioleg yn Llundain ac fe'i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007.

Y llynedd cafodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan y Cynulliad a'r Cyngor Ymchwil Meddygol ac mae bellach yn darllen am PhD.

Mae ganddo hefyd ddyletswyddau clinigol fel seiciatrydd fforensig ymgynghorol yn Sir Fynwy.

Dymunwn bob rhwyddineb iddo yn ei waith yng Nghaerdydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý