Cynhaliwyd swper arbennig yng Ngregynog nos Iau, Mawrth 16 i ddathlu pen-blwydd Cylch Llenyddol Gregynog yn ddeugain oed. Dr Glyn Tegai Hughes, Warden Gregynog ar y pryd, a gafodd y syniad o sefydlu'r Cylch yn fuan ar 么l Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965 yn y Drenewydd. Wedi ychydig o drafod a phwyllgora penderfynwyd sefydlu Cylch Llenyddol Maldwyn. Byddai'r Cylch yn agored i bawb ac yn cyfarfod yng Ngregynog. Etholwyd Dr Glyn Tegai Hughes yn gadeirydd cyntaf, Mr Percy Owen, Tregynon yn drysorydd a Mr Edgar Spooner yn ysgrifennydd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar Fawrth 17eg, 1966 gyda'r diweddar D J Williams, Abergwaun yn darlithio. Y darlithwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd D.J, Emyr Humphreys, R S Thomas, D Gwenallt Jones, Kate Roberts a John Gwilym Jones, ac mae'r Cylch byth oddi ar hynny
Trefor Owen, Glyn Tegai Hughes, Megan Ellis, Gwyndaf Roberts, Theodora Harvey a Mike Hughes wedi bod yn denu cewri ll锚n y genedl a'r aelodau wedi cael gwledd with wrando arnynt dros y blynyddoedd. Wedi'r swper blasus, i gyfeiliant Siwan Jones ar y delyn, torrwyd y gacen pen-blwydd gan Dr Glyn Tegai, sy'n Llywydd y Cylch o hyd, a Megan Ellis, yr Ysgrifennydd am y naw mlynedd diwethaf. Cyflwynwyd rhodd arbennig sef cywydd o waith Emrys Roberts wedi ei argraffu'n gain i'r Dr Glyn Tegai a darllenwyd y gwaith gan Theodora Harvey. Cyflwynwyd cyfarchion barddol hefyd gan Emyr ap Erddan, John Pinion Jones a Cyril Jones. Bydd tymor newydd yn dechrau yn hanes y Cylch ym mis Gorffennaf, a bydd croeso cynnes i unrhyw un ymuno 芒'r cyfarfodydd - bydd manylion llawn yn y papur bro.
|