Dyn y "Pethe", Mawr ei Ddawn
Syfrdanwyd ardal gyfan pan ddaeth newyddion am farwolaeth sydyn ac annisgwyl John Ellis Lewis, Moeldrehaearn, Dolanog. Nid dyma fel yr adwaenid ef ar lafar - cyfeirid ato fel - John Ellis Foeldrehaearn, John Foeldrehaearn neu Jac y Foel.
Fe'i ganed ar Fedi'r 26ain 1927 yn blentyn ieuengaf i John a Jane Lewis ac yn frawd i Morfydd Foelina a Dolana. Roedd ei fam yn or-wyres i Elizabeth, chwaer Ann Griffiths, - rhywbeth yr ymhyfryda'r mab yn fawr ynddo. Tân ar lawr oedd ym Moeldrehaearn bryd hynny, a llosgent fawn a dorrwyd o'r fawnog gerllaw. Roedd yn aelwyd ddiwylliedig iawn ble rhoddwyd gryn bwyslais ar ddysgu adnodau a barddoniaeth.
Cerddai John Ellis gyda'i chwiorydd i Ysgol Dolanog, tua dwy filltir i ffwrdd, ac roedd ganddo straeon doniol iawn o'r cyfnod hwnnw. Sylwodd ar fyd natur, bod yn blanhigyn, aderyn, neu anifail wrth deithio i'r ysgol a pharhaodd y diddordeb yma ar hyd ei oes. Gadawodd Ysgol Dolanog ac aeth adre i helpu ei Dad ar y fferm, ac ni symudodd oddi yno. Mae'n siwr na chysgodd oddi cartref fawr iawn ar hyd ei oes ac yn sicr gellid ei ddisgrifio fel dyn ei filltir sgwâr.
Bu'n briod â Glenys, merch y Groe am dros ddeugain mlynedd, a bu'n hynod ofalus ohoni yn ystod ei gwaeledd. Bu hithau farw'n sydyn iawn ac er mor galed oedd y glec, nid oedd John Ellis byth yn cwyno ar ei fyd.
Cawsant ddau o feibion sef Edfryn a Glandon a dyma'r atgofion cyntaf sydd gennyf o'r teulu tua deugain mlynedd yn ôl pan ddeuent i gystadlu yn Eisteddfod Llanwddyn.
Deuthum i adnabod y teulu'n llawer gwell pan oeddem yn ein harddegau ac yn mynd i'r Foel am baned ar nos Sadwrn. Bu teulu Moeldrehaearn yn magu twrciod am tua chanrif, a buom yn mynd yno i bluo am rai blynyddoedd. Dyma'r cyfnod pan ddeuthum i gysylltiad â John Ellis o ddifri, a rhoddai'r argraff ei fod gryn gymeriad bryd hynny.
Gyda threigl amser, priododd Edfryn a Glandon, a daeth yr wyrion a'r wyresau. Roedd Taid a Nain yn meddwl y byd ohonynt, ac yn ymhyfrydu yn eu llwyddiant mewn Eisteddfodau ar hyd y wlad. Roedd yr wyrion a'r wyresau yn meddwl y byd o Taid a Nain hefyd.
Nid gwaith hawdd yw ceisio rhestru nodweddion John Ellis ond dyma sut y byddaf i'n ei gofio. Fel Cristion - Bu'n ffyddlon i Gapel Saron ar hyd ei oes, ac ef oedd arweinydd y gân am flynyddoedd lawer. Roedd yn hyddysg iawn yn ei Feibl, bu'n canu mewn plygeiniau am gyfnod maith. Roedd yn berson hael, a chefnogai achosion da o bob math.
Fel bardd - Dros y blynyddoedd fe ysgrifennodd ddwsinau o gerddi - llawer ohonynt am droeon trwstan ond roedd ganddo gerddi dwys hefyd. Bu'n aelod o dimau Ymryson y Beirdd ac yng ngŵyl Maldwyn. Fe ddechreuwyd casglu ei farddoniaeth at ei gilydd, a'r hyn sy'n drist yw mai cyfrol goffa fydd hi bellach. Roedd ganddo gof anhygoel a medrai adrodd cannoedd o benillion ac englynion.
Dyn diwylliedig - Cefnogai Eisteddfodau lleol ac roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd Eisteddfod Powys. Roedd achau teuluoedd lleol ar flaen ei fysedd a gwyddai am hanes yr ardal. Roedd yn hyddysg â gwaith beirdd mawr y genedl a dyfynau'n helaeth o'u cerddi.
Fel Ffarmwr - Tybed faint ohonoch sy'n gwybod mai John Ellis a brynodd y penied olaf yn hen farchnad y Trallwm, sef deg o wyn menyw.
Fel dyn cŵn a gwn - Magodd ugeiniau o ddaeargwn dros y blynyddoedd ac roedd yn saethwr heb ei ail. Bu'n hela'r llwynog ar hyd ei oes, a chafodd nifer ohonom ei gwmni mewn helfa y dydd cyn y bu farw. Credaf mai dyma pryd yr oedd hapusaf.
Fel cymeriad - Roedd rhyw hiwmor a thynnu coes yn rhan o'i gyfansoddiad ac roedd yn ffraeth ei dafod. Sylwai'n fanwl ar y lleuad a'r sêr a ble roedd y gwynt ar droead y rhod. Credai'n gryf fod finegr yn gymorth i wella nifer o anhwylderau corfforol.
Fel cyfaill - Dyma'n sicr sut y cofiaf i John Ellis. Roeddem mewn cysylltiad rheolaidd ar y ffôn ac roedd ei sgwrs bob amser yn ddifyr. Dechreuai yn aml gyda'r ymadrodd "Gŵr y tŷ ger y tân" ac roedd rhyw dinc arbenni gyn ei lais pan ddywedai "Hwyl" ar y diwedd. Mae'n siwr fod bil ffôn y Foel hyd braich yn aml!
Daeth y diwedd yn frawychus o sydyn a diolchwn na fu'n dioddef o afiechyd poenus fel ei gymar. Mae ardal eang yn cydymdeimlo'n ddiffuant iawn gyda'r teulu yn eu colled fawr. Er na allwn beidio ag hiraethu am y cwmniwr ffraeth, fel ddeil yr atgofion melys amdano i esmwyth ychydig ar y braich.
John Lewis [O'i Gorun i'w Sawdl]
Ciap ciam ar 'i ben
I gadw'r blewyn dan drefn,
Aeiliau braf, blewog
A thrwyn ogle llwynog.
Hael glustie am stori
A llygaid direidi,
Bysedd bardd yn barddoni -
Ffrindie'n i chael hi!
Traed dwfn yn y pridd
Er yn chwim ar y ffridd,
Pâr o goese tip top -
Y fan wen sy' ar stop!
Penglinie i blygu,
Gweddïo - a thyrchu.
Heliwr gorchestol,
Amgylcheddwr di-lol,
Triw-ganwr plygeiniol,
Gwladgarwr angerddol.
Cofiadur llên gwerin,
Balch o linach a chynefin,
G@r trwymgalon a phrin,
Pen teulu a'u Brenin.
Tom Erfyl