Mae'n amlwg mai'r ffisig du yw prif gynhaliaeth ein Prifeirdd, er y gallai rhai o aelodau Parti Cut Lloi fod wedi manteisio trwy anwybyddu ei hud cyn rhoi tro ar y llwyfan.
Rydym yn ffodus fod rhai o'n beirdd mwyaf galluog a phoblogaidd wedi gwirioni ar 'Fwynder' y topiau acw ac yn fodlon dod trosodd i'n diddanu am nesaf beth i ddim. Rwy'n tybied fod y croeso maent yn ei gael yn y Parc, Neuadd Cynhinfa a Rhosaflo yn allweddol; ond yn wir mi glywes neb llai na Twm Morys yn datgan ar y radio y byddai am drigo yn ein mysg pe bai yn gadael ei gartref presennol yn Llanystumdwy. Cawsom feddwl mewn casgen a gynghanedd a ch芒n yng nghwmni Geraint Lovegreen, Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd a Mei Mac nos Wener yr 糯yl. Y gwybed bach yn gafael ychydig ond ta waeth roedd ymateb y dorf (ddigon parchus ei nifer) yn cadarnhau ein bod mewn cwmni talentog ac annwyl dros ben. Rhaid ei bod yn noson dda - ni chyrhaeddais adref tan hanner awr wedi dau y bore, ac mae si nad aeth cwpwl ifanc y Parc a Mr a Mrs Lovegreen i'w gwl'au a gwbl!
Buasai y diweddar William Jones, Dolhywel wrth ei fodd pan drodd dawnswyr o Gaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth, Caernarfon, Llangollen ar Banwy i mewn i'r gwesty fore Sadwrn i dalu clod iddo trwy ddawnsio rhai o'i gasgliad o ddawnsfeydd Llangadfan o flaen y drws ffrynt. Ni chymerodd y Brums ar eu ffordd i Bermo fawr o sylw ohonynt - ond pa ots amdanyn nhw a'u fflagiau Sant Si么r - pwrpas unrhyw 诺yl yw mwynhau cwmni ein gilydd heb ots am y dyrfa sy'n gwylied.
Gellid dweud yr un peth am yr Ymryson a gynhaliwyd dan ofal Arwyn Groe a Twm Morys brynhawn Sadwrn. Pawb yno yn fardd, brifardd neu gyw fardd a rhai a oedd yn mentro odli ambell i air gyda'i gilydd. Cafodd y ddau Ddafydd ifanc - Dafydd Dur a Dafydd Francis hwyl go iawn er ymdrechion digon tila eu hathrawon neu gyn-athrawon, Huw Richards a Pryderi. Prynhawn cartrefol a gwerthfawr iawn gyda'n beirdd ifanc lleol yn manteisio ar ambell i dip gan y beirdd mawr.
Rhoddodd y Parti Cut Lloi groeso i'w gwest茂on sef Meibion Llywarch a'r Ffarmwr Ffowc nos Sadwrn. Cafodd bois Dan Puw groeso gwresog a hwyl wrth berfformio. Braf oedd gweld y dyrfa leol yn gwerthfawrogi eu gallu a'u dawn - roeddynt yn edrych mor ifanc a ffit. Efallai y dylai Si芒n anfon y bois Cut Lloi am sesiwn o circuit training cyn y Genedlaethol ac am gyfnod i'r Betty Ford Clinic am rehab.
Ffarmwr Ffowc - dyna ichi foi! Rwy'n gwybod ei fod yn perthyn i Marion Rhiwfelen - ond ni ddylem gymryd hynny yn ei erbyn! Roedd y mwyafrif yn eu dyblau (gan gynnwys Elwyn a Nest). Mae'n braf cael cip ar pro go iawn wrth ei fusnes.
Wedi bod yn gwrando ar John Ellis ym Mhontcadfan yn y bore, a cheisio plesia pobl Sardis, Llanwddyn ar 么l cinio mi drois i'r Cann am bedwar gan ofni na fyddai neb yn troi mewn i weld Dafydd Iwan yn cynnal gwasanaeth crefyddol yn y babell. Wedi'r cyfan, roedd y diweddar John Hughes yn cael ei goffau ym Mhontrobert a neb ohonom wedi hysbysebu'r oedfa go iawn. Dyna siom o'r ochr orau oedd darganfod tyrfa deilwng iawn wedi troi mewn - yn hen (93) ac ifanc (Nan, babi bach Pryderi a Nia). Diolch i bawb am ein cefnogi - 'ron i'n teimlo'n falch iawn. Tra bod rhai o fois y clwb p锚l-droed wrthi yn cefnogi Lloegr ar deledu'r bar nos Sul, fe fentrodd rai ohonom i'r babell fawr i roi tro ar ddiwylliant Cymraeg. Nid oedd fawr yno, ond Proff a'i deulu bach - ond mi gawsom hwyl yng nghwmni gwefreiddiol y gr诺p gwerin Pentennyn - Bryn Ci Du, mab Arthur Hefin a rhyw foi nad oeddwn yn ei adnabod! S么n am dalent cerddorol - rhaid rhoi slot gwell iddynt flwyddyn nesaf.
Flwyddyn nesaf? Os gwn i fydd yna 诺yl yn y Cann y flwyddyn nesaf? Gobeithio'n wir. Diolch i Emyr Wyn, Gwyn (ifanc) y Gardden, Steve a staff Cann Offis am eu cymorth. Mae'r prifeirdd am ddod n么l mae Ffarmwr Ffowc am ddod n么l - beth amdanoch chi?
Alun Cefnau