Fe dara ryw chwant ar bob g诺r o dro i dro i droi ei gefn ar ei fywyd undonnog, di-fflach a throi i mewn i'r Cut Lloi am gyfathrach gyda'i gyd-ddyn - i drafod pris y farchnad, cymhlethdod y t芒l sengl, hynt a helynt ein timau p锚l-droed lleol a chenedlaethol - i dynnu coes, ac os oes yr awydd neu'r amser, ac un o fechgyn Moeldrehaearn o gwmpas, i geisio taro c芒n, gan obeithio y deil mwy na'r pennill cyntaf yn y cof. Nid oes ond un Cut, ac mae lloi Cwm Banw o fr卯d go arbennig - wedi eu dwyn i fyny 芒'r glaw m芒n ar eu cefnau, yn troedio rhwng y brwyn a'r rhedyn gydag un llygad ar Ddolymaen am arwydd o'r gawod nesaf. Allan o'r niwl a'r glaw mynydd fe droediodd ambell i gymeriad annwyl a lliwgar megis Ifan Pantgwyn, Jonnah Breese, Swd Llertai, Ifan Gribin a Sam Bach drwy'r drws dros y blynyddoedd ac fe'i cedwir yn agored heddiw gan griw bychan, selog yn cynnwys y 'Tri Myscatiwr' - Dani, Ffranco a Phandy. Gwelir ambell i lo o fr卯d tramor, neu o dros y ffin, yn troi i mewn ac ambell i heffer ddewr yn mentro setlo lawr ynghanol y testostarone - ond ychydig yw'r rhai sy'n gallu dygymod
芒'r nosweithiau tawel, gaeafol hynny pan fo'r sgwrs yn ogystal 芒'r cwrw yn fflat. Lloi o'r un tras sy'n mynychu'r Parti hefyd. Meibion ac wyrion y rhai a drodd i mewn i'r
Cut dros y blynyddoedd - neu a ruthrodd heibio ar eu ffordd i'r cwrdd a'r cyngerdd. Yr un yw'r sgwrs, yr hwyl a'r asbri, hyd yn oed ym mhresenoldeb merch benfelen y Gardden - nid oes wrth ryw barchusrwydd dibwys, rhyw reolau caeth - yn hytrach pawb yn ceiso neu gynnig ei farn ar ystyr ryw air dieithr, neu ar sut yn union yr arferai ei dad neu ewythr ganu'r d么n dan sylw. Dadlau ond dim pallan - cyn i Si芒n yn y diwedd gael ei ffordd ei hun - yn ufuddhau ac yn sefyll mewn dwy res daclus. Rhaid wrth ddisgyblaeth, oes ond rhaid hefyd wrth ryddid i ddatblygu talent, a chaiff ambell i unigolyn drwydded i ddiddanu yn ei ffordd ei hun - cyfrifoldeb yn ogystal 芒 braint.
Wele'r Cut, wele'r Parti. Wele'r sbort, y chwerthin a'r doniolwch. Wele hefyd y cydymdeimlad a'r consyrn wrth glywed am golli mam neu salwch yn ein plith - neu am un o'r bois mewn trybini. Wedi'r cyfan maent i gyd yn perthyn (wel bron i gyd) - er nad oes sicrwydd o ble y treiddiodd y Tarw bob tro! Rhwydd hynt i'r CD. Gobeithio ei bod yn adlewyrchiad teilwng o'r mwynhad a gawsom dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng ngwmni Si芒n ac yng nghwmni'n gilydd a ffrindiau hen a newydd o bob rhyw a gyfarfuom mewn gwahanol rannau o'r hen wlad. Erthygl gan Alun Jones
|